Adolygiadau Ymarfer Oedolion

 Cynhelir Adolygiadau Ymarfer Diogelu Oedolion ar ran Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru. Maent yn ddull sy’n caniatáu pob asiantaeth partner i nodi’r gwersi y gellir eu dysgu o’r achosion Diogelu Oedolion arbennig o gymhleth neu anodd a gweithredu newidiadau i wella gwasanaethau yn sgil y gwersi hyn.

Cyhoeddir adroddiadau crynodeb ac argymhellion o Adolygiadau Diogelu Oedolion ar Wefan Diogelu Oedolion Gogledd Cymru

AYO – y Pwrpas:

Rhaid ystyried adolygiadau lle mae oedolyn mewn perygl:

  • yn marw (gan gynnwys marwolaeth drwy hunanladdiad tebygol) neu
  • yn dioddef anaf a allai fygwth bywyd neu nam hirsefydlog difrifol neu nam parhaol ar iechyd neu
  • wedi bod yn destun camdriniaeth rywiol ddifrifol
  • naill ai ei bod yn hysbys neu yr amheuir fod camdriniaeth neu esgeulustod yn ffactor gyfrannol

Gwneud cais am adolygiad:

Gall unrhyw aelod o’r Bwrdd Diogelu Oedolion, asiantaeth neu ymarferydd fynegi pryder am achos y maent yn credu y gallai fodloni’r meini prawf uchod ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Oedolion. Gall ceisiadau hefyd ddod o ffynonellau eraill fel y teuluoedd, y Crwner, Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Seneddol, cynghorwyr lleol ac unigolion eraill sydd â diddordeb.

Mae ffurflen atgyfeirio ar gyfer gael ei ystyried i’r gweld isod AYO  yna dylid cyflwyno ffurflenni trwy eich Uwch Reolwr yn achos yr ALl neu ei anfon at y Cydlynydd Busnes ar gyfer y Bwrdd: Regionalsafeguarding@Denbighshire.gov.uk

Ffurflen-Gyfeirio-Ffurflen Gyfeirio

Leave a Comment