AYPE Sir Ddinbych 2

Bethan Jones

Comisiynwyd yr Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig hwn gan Gadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ym mis Medi 2015. Cynhaliwyd yr adolygiad yn dilyn marwolaeth drist plentyn 11 oed yn dilyn pwl asthma difrifol yn Sir Ddinbych.  Digwyddodd hyn ym mis Gorffennaf 2015.

Cafodd yr Adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig ei anfon i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2017 ac, o dan y rheoliadau, gall Tîm Diogelu Llywodraeth Cymru dynnu rhannau eraill o Lywodraeth Cymru a’r Grŵp Arolygiaeth i mewn os bydd angen unrhyw gamau pellach.  Nid oedd angen cymryd camau pellach.

Amlygodd yr adolygwyr annibynnol feysydd o ymarfer da oddi wrth Wasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol megis bod â chofnod clir o gydymffurfio ag ymweliadau statudol a grwpiau craidd rheolaidd a bod cynlluniau amddiffyn plant yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan amlygu meysydd o gynnydd.  Mae tystiolaeth gref o ymarfer da yn BIPBC o ran rheoli asthma’r plentyn a chyfathrebu agos rhwng yr holl weithwyr iechyd proffesiynol.  Mewn perthynas ag Addysg, mae tystiolaeth eu bod wedi gweithio’n dda gyda’u cydweithwyr amlasiantaeth, wedi dangos presenoldeb da yn y cyfarfodydd amddiffyn plant ac wedi gwneud atgyfeiriadau priodol pan nodwyd pryderon.

Amlygodd yr adolygiad yr angen am sicrhau fod llais y plentyn yn cael ei glywed, a lle bo’n briodol dylai plant a phobl ifanc gael cyfleoedd i gyfrannu’n uniongyrchol tuag at wneud penderfyniadau ac at asesiadau angen a risg, ac y dylid dogfennu hyn.  Amlygwyd hefyd na rannwyd pryder ynghylch meddyginiaeth na ddylid ei ddefnyddio yn y gynhadledd adolygu derfynol, ac yn amlwg roedd hyn yn hanfodol o ran deall y darlun cyflawn mewn perthynas ag angen meddygol.

Amlygwyd cynrychiolaeth feddygol yn y gynhadledd derfynol ynghyd â phroblemau o ran rhannu ychydig o wybodaeth.  Amlygodd yr adolygiad hefyd, er bod staff yn ymwybodol o’r hyn yr oedd asesiadau penodol yn fesur, ni chafodd y rhain eu gwneud yn unol ag argymhellion y gynhadledd achos.  Cafodd y prosesau Canlyniad Cyfraith Gyhoeddus eu mynegi fel pryder hefyd, ynghyd â materion o ran dieithriwch cydymffurfio.

Mae cynllun gweithredu wedi ei lunio ac yn cael ei fonitro gan Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru i sicrhau bod myfyrio a dysgu wedi digwydd ar draws yr holl asiantaethau sy’n gweithio gyda’r teulu hwn.

Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad yn yr Adran CPR o’r Wefan.

Leave a Comment