Beth yw camdriniaeth?

Camdriniaeth yw pan fydd plentyn neu berson ifanc yn cael ei gam-drin neu ei niweidio’n sylweddol.  Gall camdriniaeth ddigwydd ar sawl ffurf:

Gweler rhestr anghyflawn isod o enghreifftiau o bob un o’r categorïau camdriniaeth ac esgeulustod:

  • Corfforol – gan gynnwys taro, slapio, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, defnyddio ataliaeth ormodol neu sancsiynau amhriodol.
  • Meddyliol / Seicolegol – gan gynnwys bygythiadau i’ch niweidio neu’ch gadael, rheolaeth orfodol, cywilydd, cam‑drin ar lafar neu gam-drin hiliol, unigedd neu dynnu gwasanaethau neu rwydweithiau cefnogi yn ôl.
  • Rhywiol– trais ac ymosodiadau neu weithredoedd rhywiol nad yw’r plentyn wedi neu nad oedd yn gallu rhoi caniatâd iddynt a/neu os cafodd ei (g)orfodi i roi caniatâd.
  • Ariannol  – bydd y categori hwn yn llai amlwg gyda phlant ond gallai dangosyddion gynnwys:
    gweithgarwch anarferol mewn cyfrif banc gan is-lofnodwr;
    methu â diwallu eu hanghenion gofal a chefnogi a ddarperir drwy daliadau uniongyrchol; neu
    cwynion fod eiddo personol ar goll.
  • Esgeulustod – methu â chael gofal neu wasanaethau meddygol, esgeulustod yn wyneb cymryd risg, methu â rhoi meddyginiaeth ragnodedig, methu â chynorthwyo â hylendid personol neu i ddarparu bwyd, cysgod, dillad; esgeulustod emosiynol.

Pwy all fod yn achosi’r gamdriniaeth?

Gallai oedolion diamddiffyn gael eu cam-drin gan ystod eang o bobl gan gynnwys perthnasau, aelodau o’u teulu, staff proffesiynol, gweithwyr gofal, oedolion eraill mewn perygl, gwirfoddolwyr, cymdogion, cyfeillion, pobl sy’n mynd ati’n unswydd i gam-drin pobl fregus, dieithriaid a phobl sy’n bachu ar eu cyfle.

Gallai’r sawl sy’n cyflawni’r gamdriniaeth fod yn unrhyw un o gwbl.

Ymhle mae’r gamdriniaeth yn digwydd?

Gall camdriniaeth ddigwydd yn unman – mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, yn y gweithle, mewn canolfan gofal dydd neu sefydliad addysgol, mewn llety â  gofal, yn y stryd neu yng nghartref yr oedolyn diamddiffyn ei hun.  Gall camdriniaeth fod yn un weithred sengl neu gall barhau dros fisoedd neu flynyddoedd.

Cam-drin Domestig

Ni ddylai trais domestig ddigwydd i unrhyw un.  Byth.  Ond mae o yn digwydd, ac os yw’n digwydd,  mae help ar gael.

Os ydych yn amau fod rhywun mewn perygl uniongyrchol o ddioddef niwed, ffoniwch 999 a siaradwch â’r heddlu.

Os ydych chi’n profi, neu wedi profi camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, neu os ydych yn bryderus ynglŷn â ffrind neu berthynas sy’n eu profi, mae cefnogaeth ar gael.

Mae’r llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth cefnogaeth a gwybodaeth cyfrinachol, rhad ac am ddim ar gyfer unrhyw un sy’n profi camdriniaeth ddomestig neu rywiol neu sydd eisiau rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael ac mae ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Cysylltwch a’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am ddim ar 0808 80 10 800