Beth yw Camdriniaeth?

Dyma ddiffiniad bras o oedolyn mewn perygl: “Unigolyn  18 oed neu’n hŷn a allai fod angen gwasanaethau gofal cymunedol o herwydd anabledd meddyliol neu anabledd arall, neu oherwydd eu hoedran  neu salwch ac sy’n methu gofalu amdanynt eu hunain, neu sy’n methu amddiffyn  eu hunain rhag niwed sylweddol neu ecsbloetio difrifol.”

Mae cam-drin oedolyn yn digwydd pan fydd rhywun yn cael eu trin yn wael neu mewn ffordd sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n ofnus, yn anhapus, yn peri niwed iddynt, yn eu brifo neu’n eu hecsbloetio – yn arbennig drwy law rhywun y maen nhw’n eu hadnabod neu y dylent allu fod a ffydd ynddynt.  Gall y gamdriniaeth amrywio o drin rhywun yn amharchus mewn ffordd sy’n effeithio’n sylweddol ar ansawdd eu bywyd i achosi gwir ddioddefaint corfforol.

Mae mathau o gamdriniaeth yn cynnwys:

  • Camdriniaeth gorfforol fel taro, gwthio, pinsio, ysgwyd, camddefnyddio meddyginiaeth, sgaldio, tynnu gwallt.
  • Camdriniaeth Rywiol fel gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol nad  ydynt eisiau cymryd rhan ynddo, cael eu cyffwrdd yn amhriodol, ymosodiadau rhywiol, neu weithredoedd rhywiol nad yw, neu na allai’r oedolyn diamddiffyn fod wedi cydsynio iddo, neu y cawsant eu rhoi dan bwysau i gydsynio iddo.
  • Camdriniaeth seicolegol neu emosiynol  fel codi ofn, bygwth, anwybyddu ar bwrpas, bychanu, beio, rheoli, gorfodi, aflonyddu, cam-drin ar lafar, cael eu rhwystro rhag gweld ffrindiau neu rwystro teulu rhag ymweld neu eu hatal rhag cael gwasanaethau neu gefnogaeth.
  • Cam-drin Ariannol fel dwyn arian rhywun neu ei wario ar y pethau anghywir, rhoi pwysau ar rywun i wneud newidiadau i’w hewyllys neu wario eu harian yn erbyn eu dymuniadau, twyll neu escbloetio, pwysau mewn perthynas ag eiddo, etifeddiaeth, camddefnyddio eiddo, a budd-daliadau.
  • Esgeulustod ydy anwybyddu anghenion meddygol neu gofal corfforol, rhwystro rhag cael mynediad i gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu addysgiadol, gofalu am rhywun yn wael, diffyg darparu bwyd digonol, rhoi nhw mewn risg.

Gall y mathau hyn o gamdriniaeth ddigwydd yn fwriadol neu o ganlyniad i anwybodaeth, diffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth. Yn aml iawn bydd unigolyn yn cael ei gam-drin mewn mwy  nag un ffordd.

Pwy all fod yn achosi’r gamdriniaeth?

Gallai oedolion diamddiffyn gael eu cam-drin gan ystod eang o bobl gan gynnwys perthnasau, aelodau o’u teulu, staff proffesiynol, gweithwyr gofal, oedolion eraill mewn perygl, gwirfoddolwyr, cymdogion, cyfeillion, pobl sy’n mynd ati’n unswydd i gam-drin pobl fregus, dieithriaid a phobl sy’n bachu ar eu cyfle.

Gallai’r sawl sy’n cyflawni’r gamdriniaeth fod yn unrhyw un o gwbl.

Ymhle mae’r gamdriniaeth yn digwydd?

Gall camdriniaeth ddigwydd yn unman – mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, yn y gweithle, mewn canolfan gofal dydd neu sefydliad addysgol, mewn llety â  gofal, yn y stryd neu yng nghartref yr oedolyn diamddiffyn ei hun.  Gall camdriniaeth fod yn un weithred sengl neu gall barhau dros fisoedd neu flynyddoedd.

Cam-drin Domestig

Ni ddylai trais domestig ddigwydd i unrhyw un.  Byth.  Ond mae o yn digwydd, ac os yw’n digwydd,  mae help ar gael.

Os ydych yn amau fod rhywun mewn perygl uniongyrchol o ddioddef niwed, ffoniwch 999 a siaradwch â’r heddlu.

Os ydych yn dioddef o gamdrin domestig neu drais rhywiol, neu wedi dioddef o gamdrin domestig neu drais rhywiol, neu yn bryderus ynglyn a ffrind neu perthynas sydd yn dioddef o gamdrin domestig neu drais rhywiol medrwch cael cymorth drwy gysylltu a llinell gymorth Byw Mewn Ofn am ddim.  Mae’r gwasanaeth ffon yma yn gyfrinachol, yn costio dim ac yn darparu gwybodaeth ar gyfer unrhyw un sydd yn dioddef o gamdriniaeth domestig neu trais rhywiol neu angen mwy o wybodaeth ar gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Mae’r llinell ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Cysylltwch a Llinell Gymorth Byw Mewn Ofn am ddim ar 0808 80 10 800.