Cyhoeddi Adolygiad Ymarfer Plentyn Estynedig : Mon 2

Sara Lloyd Evans

Comisiynwyd yr Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig gan Gadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ym mis Mehefin 2014. Cynhaliwyd yr adolygiad yn dilyn cam-drin rhywiol i fachgen 6 mlwydd oed a oedd yn blentyn oedd yn derbyn gofal gan Gyngor Sir Ynys Môn. Fe ddigwyddodd hyn ym mis Ionawr 2013. Digwyddodd y gamdriniaeth yn ei leoliad maeth gan unigolyn gwrywaidd arall 14 mlwydd oed. Roedd y plentyn hŷn hefyd yn blentyn oedd yn derbyn gofal. Yn yr adroddiad cadarnhaodd yr adolygwyr annibynnol nad oedd gan yr awdurdod lleol unrhyw wybodaeth i awgrymu fod y plentyn hyn yn risg i blant iau.

Cafodd yr adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig ei anfon i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2016 ac, o dan y rheoliadau, gall Tîm Diogelu Llywodraeth Cymru dynnu rhannau eraill o Lywodraeth Cymru a’r Grŵp Arolygiaeth i mewn os bydd angen unrhyw gamau pellach. Nid oedd angen cymryd camau pellach.

Nododd yr adolygwyr annibynnol feysydd o arfer da o ran rhannu gwybodaeth gyda’r teulu mewn modd prydlon a phriodol a nodwyd bod perthynas dda rhwng y teulu a’r ysgol.

Amlygodd yr adolygiad fod angen rhannu gwybodaeth gadarn rhwng yr asiantaethau a bod hyn yn gyfrifoldeb ar y cyd ar draws yr holl asiantaethau. Nododd yr adolygiad nad oedd gweithwyr proffesiynol ar draws yr asiantaethau’n deall y Protocol Rhannu Gwybodaeth.

Nodwyd gwahaniaethau rheoli proffesiynol hefyd a nododd yr adolygwyr ar adeg y digwyddiad fod prosesau cyfyngedig ar waith o fewn yr Awdurdod Lleol er mwyn i weithwyr proffesiynol herio penderfyniad rheolwr. Ers hynny mae’r Awdurdod Lleol wedi datblygu protocol Cefnogi Her Broffesiynol mewnol yn ogystal â’r protocol rhanbarthol ar gyfer Her Broffesiynol.

Nodwyd fod anghenion hyfforddiant gofalwyr maeth hefyd yn fater pwysig, ynghyd â’r berthynas rhwng gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol. Dylai gofalwyr maeth allu rhoi her broffesiynol i weithwyr cymdeithasol a’r cynlluniau gofal. Fodd bynnag, dim ond drwy hyfforddiant priodol a phrofiad y gellir gwneud hyn.

Nododd yr adolygiad bod diffyg chwilfrydedd proffesiynol gan rai unigolion ar draws yr holl asiantaethau. Roedd hyn mewn perthynas â statws cyfreithiol y plentyn. Roedd cydymffurfiaeth cuddiedig y teulu yn tanategu at berthynas y gweithwyr proffesiynol gyda theulu’r plentyn. Mae’r adolygiad yn annog gweithwyr proffesiynol i arfer chwilfrydedd wrth dderbyn gwybodaeth. Yn ogystal â hyn, mae’r adolygiad yn amlygu pwysigrwydd casglu gwybodaeth hanesyddol, ac y dylid gwneud pob ymdrech i dderbyn y wybodaeth, gan gynnwys ymweliadau allan o’r ardal i ddarllen cofnodion hanesyddol.

Mae cynllun gweithredu wedi’i sefydlu ac yn cael ei fonitro gan Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru i sicrhau bod yr holl asiantaethau oedd yn gweithio gyda’r teulu wedi dysgu o’r sefyllfa hon.

Mae’r adroddiad i’w weld yn adran Adolygiad Ymarfer Plentyn ar y wefan.

 

Leave a Comment