BASPCAN Training Event
Trefnwyd gan:BASPCANPerson Cyswllt: Maureen Gordon
E-bost: conferences@baspcan.org.uk
Gwefan: https://www.baspcan.org.uk/event/promoting-positive-parenting-help-make-world-peaceful-place/
Ffôn: 01904 613605
Lleoliad: Pierhead, Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1NA
BASPCAN – Cymdeithas Amddiffyn Plant Cymru, Lloegr, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a’r Alban
Archwilio perthnasedd Astudiaeth Ryngwladol ar Hybu Rhianta Cadarnhaol yng Nghymru
Noddwyd gan Lynne Neagle AC
Dymuna ISPCAN, BASPCAN, NSPCC Cymru a Phlant yng Nghymru eich gwahodd i fynychu ein cynhadledd yn y Pierhead, Caerdydd ddydd Mercher, 14 Mawrth 2018, 9.00am – 4.30pm.
Nod y Gynhadledd
Archwilio perthnasedd arfer canfyddiadau o astudiaeth ryngwladol gan ISPCAN ar hybu rhianta cadarnhaol yng Nghymru
Nodi dulliau ymarferol o wella arferion rhianta i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Amcanion dysgu
Erbyn diwedd y digwyddiad, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu:
- nodi sut mae canfyddiadau ac argymhellion astudiaeth ryngwladol gan ISPCAN ar hybu rhianta cadarnhaol yn ymwneud ag ymarfer yng Nghymru
- deall beth sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithredu ymyriadau rhianta cadarnhaol
- disgrifio ffyrdd ymarferol o wella rhianta mewn ymarfer bob dydd ar lefelau ymyriad cynradd, eilaidd a thrydyddol.
Cynulleidfaoedd
- Gweithwyr proffesiynol sy’n cydlynu a rheoli gwasanaethau cefnogi rhianta.
- Gweithwyr proffesiynol yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd o faes iechyd, gwaith cymdeithasol, blynyddoedd cynnar, gwasanaethau ymyriad cynnar, addysg a’r sector annibynnol a gwirfoddol.
- Gweithwyr proffesiynol gyda chyfrifoldeb ar gyfer cynllunio a chomisiynu gwasanaethau i hybu iechyd a lles plant, rhianta cadarnhaol ac atal cam-drin plant.
- Cydlynwyr ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.
- Addysgwyr ac ymchwilwyr yn gweithio ym maes rhianta cadarnhaol ac atal cam-drin plant.