“Cadw Ein Plant Yn Ddiogel” – Hyfforddiant i’r Person Dynodedig Ar Gyfer Amddiffyn Plant

“Cadw Ein Plant Yn Ddiogel” – Hyfforddiant i’r Person Dynodedig Ar Gyfer Amddiffyn Plant

Trefnwyd gan:Children in Wales
Lleoliad: Rhyl

11 a 12 Hydref, Y Rhyl – Archebwch Ar-lein

Cwrs deuddydd   

Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw eu bywyd heb ddioddef camdriniaeth nac esgeulustod, ond mae digwyddiadau diweddar yn amlygu, unwaith eto, pa mor anodd y gall fod i gynifer o oedolion adnabod, a gweithredu ar sail pryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn. Mae Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn yn datgan y dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn. Mae rôl hanfodol i’r Person Dynodedig ar gyfer Amddiffyn Plant mewn sefydliadau, yn helpu i sicrhau bod mesurau diogelu digonol yn eu lle, a bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd pan fynegir pryderon ynghylch plentyn.

Bydd yr hyfforddiant deuddydd hwn yn ystyried y canlynol:

  • Rôl y Person Dynodedig a sut gellir ymgorffori’r rôl honno yn eich sefydliad
  • Deddfwriaeth a chanllawiau ar ddiogelu plant a phobl ifanc, yn enwedig yn y cyd-destun Cymreig
  • Mesurau diogelu hanfodol y mae angen eu rhoi ar waith
  • ‘Camddefnyddio ymddiriedaeth’ a sut mae parhau’n effro i droseddau rhywiol posibl o fewn y sefydliad
  • Asesu pryderon am blentyn, a chyfeirio’r achos at y gwasanaethau cymdeithasol os bydd angen
  • Y system amddiffyn plant statudol a’r hyn y gellir ei ddisgwyl gennych
  • Cyfrinachedd a chadw cofnodion da
  • Amrywiaeth a nodweddion ychwanegol sy’n gwneud rhai plant yn arbennig o agored i niwed.

Am yr Hyfforddwyr

Claire Sharp, Uwch Swyddog Hyfforddiant

Mae Claire Sharp wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn y sectorau gwirfoddol a statudol, ers dros 20 mlynedd, ac ar hyn o bryd hi yw Swyddog Hyfforddi Plant yng Nghymru. Treuliodd Claire flynyddoedd lawer yn gweithio ym maes cam-drin yn y cartref, yn cefnogi plant a phobl ifanc yn uniongyrchol mewn llochesi ac yn y gymuned, cyn symud ymlaen i reoli Gwasanaethau Plant yn Cymorth i Fenywod Cymru. Mae ganddi ddiddordeb parhaus mewn annog addysg a dysgu, yn yr ystyr ehangaf, gan ei bod wedi gweithio fel athrawes gynradd ac wedi goruchwylio ac asesu myfyrwyr gwaith cymdeithasol mewn timau plant a theuluoedd.

Bellach mae Claire yn hyfforddi ymarferwyr o amrywiaeth o wasanaethau, ar ystod eang o faterion, yn cynnwys hawliau plant ac amddiffyn plant. Mae Claire hefyd wedi cyflwyno hyfforddiant Cefnogi Cynnar, rhaglen sy’n ceisio gwella’r gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth i blant anabl a’u teuluoedd trwy ddull gweithredu amlasiantaeth sy’n rhoi’r plentyn yn y canol. Mae Claire yn gwirfoddoli gydag UCAN Productions, cydweithfa perfformio a’r celfyddydau creadigol ar gyfer plant a phobl ifanc dall ac â golwg rhannol a’u ffrindiau, gan gefnogi’r plant i gael cyfleoedd i chwarae a chymdeithasu a datblygu sgiliau a hyder.

Mike Mainwaring, Swyddog Hyfforddi

Mae Mike Mainwaring wedi gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc ers dros 20 mlynedd, yn arbenigo ym meysydd camddefnyddio sylweddau, digartrefedd ieuenctid, cyfranogiad a hawliau plant. Mae’n hyfforddwr cymwysedig, ac mae wedi hyfforddi plant, pobl ifanc ac oedolion ynghylch camddefnyddio sylweddau, materion LHDT, hawliau plant, cyfranogiad, delio gydag ymddygiad anodd, diogelu ac amddiffyn plant, Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a ffiniau. Mae hefyd wedi datblygu a chynnal prosiectau ymchwil dan arweiniad pobl ifanc. Mae wedi gweithio mewn amrywiol gyd-destunau megis prosiectau cyffuriau ar y stryd, adsefydlu preswyl, gwaith allgymorth, chwarae a gwaith ieuenctid, mae wedi rheoli prosiectau tai ac wedi bod â gofal am gynghorau ieuenctid. Mae ganddo gefndir ym myd celf, y mae’n ei ddefnyddio’n gyfrwng i weithio gyda phobl ifanc sydd mewn trallod, ac mae’n arddangos ei waith ei hun ar destunau cymdeithasol.

COST:

Aelodau: £165                           Heb fod yn Aelodau: £195

Mae rhai o’n cyfranogwyr cwrs blaenorol wedi gwneud y sylwadau canlynol: 

“Fe wnaeth yr hyfforddwr bopeth yn hwylus. Roedd yn hawdd holi’r hyfforddwr ac roedd yn broffesiynol iawn. Roedd digon i gnoi cil arno, a bydda i’n awgrymu newidiadau i bolisi ac ymarfer wrth ddychwelyd i’r gwaith” 

“Cwrs rhagorol gyda llawer o wybodaeth ddefnyddiol iawn. Da cwrdd ag eraill sy’n gweithio mewn meysydd gwahanol”

“Roedd y gweithgareddau ymarferol yn llawer o hwyl :). Roedd y cysylltiad ag achosion bywyd go iawn yn dda”

“Byddaf yn siwr o ddefnyddio peth o’r wybodaeth i’w rannu gyda chyfeillion/staff”

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â training@childreninwales.org.uk

 

Children in Wales

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event