CYNHADLEDD RANBARTHOL CAMFANTEISIO’N RHYWIOL AR BLANT

CYNHADLEDD RANBARTHOL CAMFANTEISIO’N RHYWIOL AR BLANT

Trefnwyd gan:NSPCC & NWSCB
Person Cyswllt: Cathryn Williams
E-bost: nspccnorthwales@nspcc.org.uk
Ffôn: 01745 772100
Lleoliad: Deeside 6th, Coleg Cambria, Golftyn Lane, Connah's Quay CH5 4BH

Mae’r gynhadledd (9.30am – 4pm) hon yn gyfle cyffrous i ddod â gweithwyr proffesiynol o ogledd Cymru at ei gilydd i drafod ymchwil ac ymarfer cyfredol yn ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant i gyd-fynd â’r diwrnod cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blant.

Siaradwr Agoriadol:

  • Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Prif Siaradwr:

  • Dr Helen Beckett, Cyfarwyddwr Canolfan Ryngwladol Prifysgol Bedfordshire:  Yn ymchwilio i Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Trais a Masnachu mewn Plant

Bydd y prynhawn yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Diogelu a Pharch, NSPCC Cymru
  • Prosiect Gwella, Barnardo’s Cymru
  • Gwasanaeth Annibynnol Eiriolaeth Masnachu Plant, Barnardo’s Cymru

Sylwadau Clo:

  • Mohammed Mehmet, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Cadeirydd Bwrdd Gweithredol Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant.

Nid oes cost i fynychu’r gynhadledd, ni ddarperir cinio ond bydd lluniaeth ar gael.

I archebu eich lle, cysylltwch â nspccnorthwales@nspcc.org.uk

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event