Ddiogelu Lles Plant a Phobl Ifanc – Cwrs Achrededig Lefel 2 trwy Agored Cymru

Ddiogelu Lles Plant a Phobl Ifanc – Cwrs Achrededig Lefel 2 trwy Agored Cymru

Trefnwyd gan:Children in Wales
E-bost: training@childreninwales.org.uk
Lleoliad: Rhyl

27 Ebrill 2016 – Y Rhyl

 

Cwrs undydd

 

Cwrs undydd a anelir at unrhyw un sy’n gweithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amrediad eang o gyd-destunau yn y gweithle neu’r gymuned. Diben yr hyfforddiant yw rhoi hyder a gwybodaeth hanfodol i’r sawl sy’n cymryd rhan am sut i ddiogelu plant a phobl ifanc yn eu hamgylchedd.

 

Mae’r hyfforddiant wedi ei achredu drwy Agored Cymru a bydd angen i’r cyfranogwyr gwblhau asesiadau i dangos yr hyn maent wedi ei ddysgu. Ar ôl cwblhau aseiniad yn llwyddiannus bydd y cyfranogwr yn ennill 3 chredyd ar Lefel 2. Mae’r uned hon yn rhan o fframwaith sicrhau ansawdd Cymru ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol.

 

O ganlyniad i’r hyfforddiant bydd cyfranogwyr:

  • Yn dysgu am y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau ar gyfer diogelu lles plant a phobl ifanc, gan gynnwys E-ddiogelwch
  • Yn deall rolau gwahanol asiantaethau sy’n ymwneud â diogelu lles plant a phobl ifanc
  • Yn deall sut i ddiogelu plant, pobl ifanc ac ymarferwyr mewn cyd-destun gwaith
  • Yn adnabod nodweddion mathau gwahanol o gamdriniaeth plant
  • Yn gwybod sut i ymateb i dystiolaeth neu bryderon bod plentyn neu berson ifanc wedi cael ei gam-drin, ei niweidio neu ei fwlio
  • Yn gallu disgrifio egwyddorion a therfynau cyfinachedd a phryd i rannu gwybodaeth

 

COST:

Aelodau £130

Heb fod yn Aelod £155

 

 

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â training@childreninwales.org.uk

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event