Deall sut i Ddiogelu Lles Plant a Phobl Ifanc – Cwrs Achrededig Lefel 2 trwy Agored Cymru
Trefnwyd gan:Children in WalesDydd Mawrth, 7th Mehefin 2016 9.00am – 4.30pm
Caerdydd
Cwrs undydd
Cwrs undydd a anelir at unrhyw un sy’n gweithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amrediad eang o gyd-destunau yn y gweithle neu’r gymuned. Diben yr hyfforddiant yw rhoi hyder a gwybodaeth hanfodol i’r sawl sy’n cymryd rhan am sut i ddiogelu plant a phobl ifanc yn eu hamgylchedd.
Mae’r hyfforddiant wedi ei achredu drwy Agored Cymru a bydd angen i’r cyfranogwyr gwblhau asesiadau i dangos yr hyn maent wedi ei ddysgu. Ar ôl cwblhau aseiniad yn llwyddiannus bydd y cyfranogwr yn ennill 3 chredyd ar lefel 2. Mae’r uned hon yn rhan o fframwaith sicrhau ansawdd Cymru ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol.
O ganlyniad i’r hyfforddiant bydd cyfranogwyr:
- Yn dysgu am y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau ar gyfer diogelu lles plant a phobl ifanc, gan gynnwys E-ddiogelwch
- Yn deall rolau gwahanol asiantaethau sy’n ymwneud â diogelu lles plant a phobl ifanc
- Yn deall sut i ddiogelu plant, pobl ifanc ac ymarferwyr mewn cyd-destun gwaith
- Yn adnabod nodweddion mathau gwahanol o gamdriniaeth plant
- Yn gwybod sut i ymateb i dystiolaeth neu bryderon bod plentyn neu berson ifanc wedi cael ei gam-drin, ei niweidio neu ei fwlio
- Yn gallu disgrifio egwyddorion a therfynau cyfinachedd a phryd i rannu gwybodaeth
Sylwch – * Mae’r cyfraddau a hysbysebir yn cynnwys tâl y pen am Asesu, Dilysu Allanol ac Ardystio gan Agored Cymru.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â training@childreninwales.org.uk.
Sicrhewch fod gennych rif archeb brynu wrth law wrth wneud eich archeb. Dylech ei gael gan eich adran gyllid.
COST: Aelodau £130 Eraill £155