DIGWYDDIAD AM DDIM – Cynnwys y Trydydd Sector wrth Wella Llesiant Emosiynol a Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru
Trefnwyd gan:Children In WalesLleoliad: Canolfan Fusnes Conwy
**LLEOEDD DAL AR GAEL**
Gogledd Cymru – 27 Hydref 2016, Canolfan Fusnes Conwy, 1yp – 3.30yp
Ydych chi’n sefydliad Trydydd Sector sy’n darparu gwasanaeth i blant a phobl ifanc sy’n helpu i wella’u llesiant emosiynol a’u hiechyd meddwl?
Helpwch ni i ddeall y gwir bryderon a’r materion sy’n cael eu hwynebu wrth gynnig cefnogaeth amserol a phriodol. Dywedwch wrthym am y materion rydych chi’n eu hwynebu wrth ddarparu eich gwasanaeth ac effaith hynny ar wella llesiant emosiynol a iechyd meddwl y plant a’r bobl ifanc sydd yn eich gofal?
Bydd ein sesiynau 2½ awr yn cwmpasu rhannu gwybodaeth ar y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP). Byddwch chi’n cael cyfle i ddweud mwy wrthym am eich gwasanaeth chi a gwasanaethau eraill rydych chi’n gwybod amdanynt ar gyfer PPI ledled Cymru a sut rydych chi’n cyfrannu at wella llesiant emosiynol a iechyd meddwl. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw enghreifftiau lle mae gwasanaeth yn gweithio’n dda, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda, er mwyn i ni fedru rhannu’r wybodaeth a’r profiad gydag eraill.
Mae aelodau bwrdd Rhaglen T4CYP wrthi ar hyn o bryd yn chwilio am ddarparwyr gwasanaeth ar lawr gwlad i ddarparu gwybodaeth i gynrychiolwyr y trydydd sector ynghylch pob un o’r llifoedd gwaith a thrafod sut gallwn ni barhau i gyfathrebu’n effeithiol.
Y llifoedd gwaith a’r cynrychiolwyr yw:
* Gwydnwch Cyffredinol a Llesiant – Christine Parker, Cymorth i Ferched Cymru
* Ymyrraeth Gynnar a Chefnogaeth Well i Grwpiau Agored i Niwed
* Ymdrin ag anghenion y rhai sydd ag anawsterau niwroddatblygiadol ac Anableddau Dysgu – Catriona Williams OBE, Plant yng Nghymru
* Y Gweithlu, Addysg a Hyfforddiant – Rhian Huws Williams, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Gofal Cymru
* Sefyllfaoedd Pontio ym maes Gofal – Sara Payne, Barnardo’s Cymru
I ddysgu mwy am Raglen Law yn Llaw at Plant a Phobl Ifanc (T4CYP), ymwelwch a: http://www.goodpractice.wales/t4cyp http://bit.ly/2c8qSYT http://bit.ly/2csZerv
COST: Rhad ac am Ddim
Cliciwch ar y lleoliad a ddewiswyd isod i gadarnhau eich lle: