HYFFORDDIANT RHAD AC AM DDIM – Y Darlun Ehangach: Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd yng Nghymru

HYFFORDDIANT RHAD AC AM DDIM – Y Darlun Ehangach: Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd yng Nghymru

Trefnwyd gan:Children in Wales

15 Chwefror 2017, Bangor – Archebu Ar-lein

Nod y gweithdy tair awr yma yw cefnogi gweithlu aml-asiantaeth a thraws-sectorol sy’n fwy gwybodus ac ymgysylltiedig i gyflwyno Polisi Llywodraeth Cymru.  

 

Bydd y sesiwn hyfforddiant yn cefnogi pobl o amrediad eang o sefydliadau i ddeall fframwaith deddfwriaeth a pholisi penodol Cymru i blant a theuluoedd sydd wedi datblygu o ganlyniad i ddatganoli cynyddol rhag San Steffan. Bydd y sesiwn yn ystyried deddfwriaeth bresennol Cymru mewn perthynas â phlant a theuluoedd, polisi a strategaethau Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n cynnwys sut mae Hawliau Plant yn cael eu sicrhau drwy fentrau ar dlodi, iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg plant. Bydd y cwrs yn edrych ar Raglen newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Llywodraeth, yn ogystal â mentrau fel Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, Cymunedau’n Gyntaf a Chymorth Integredig i Deuluoedd gan ystyried rolau a blaenoriaethau sectorau gwahanol sy’n ymwneud â darparu’r rhaglenni hyn a’r heriau mae pawb yn eu hwynebu.

 

Canlyniadau Dysgu

 

Bydd y cyfranogwyr:

 

  • Yn cael trosolwg o’r cyd-destun gwleidyddol a’r prosesau sy’n llywio polisi yng Nghymru
  • Cael crynodeb o’r Rhaglen Lywodraethu newydd ar gyfer 2016-2021
  • Yn dysgu am bolisi a strategaethau Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i blant a phob ifanc
  • Yn deall y blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau i blant a theuluoedd
  • Yn edrych ar sut mae eu sefydliad hwy a’u meysydd gwaith allweddol yn cyd-fynd â’r prif feysydd polisi mewn perthynas â phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Pwy yw’r gynulleidfa darged?

 

Ymarferwyr, Rheolwyr a Gwneuthurwyr Polisi o bob sector a phob corff sy’n awyddus i ystyried sut mae eu maes gwaith hwy yn ffitio i mewn i ddarlun ehangach polisi plant a theuluoedd yng Nghymru. Bydd yn helpu cyrff i baratoi am newidiadau sy’n cael eu rhagweld ac i weithredu’n effeithiol o fewn cyd-destun aml-asiantaeth.

*NODWCH: I SICRHAU EIN BOD YN CAEL CYNRYCHIOLAETH TRAWS-SECTOR YM MHOB GWEITHDY, GALLWN GYNNIG DAU LE I 

FOB SEFYDLIAD*

 

** CANSLO**

Mae’r digwyddiad hwn am DDIM, ond bydd angen i’r rhai sydd wedi bwcio lle ond ddim yn troi i fyny dalu £50.  Gallwch ganslo i fyny at ddeuddydd

cyn y digwyddiad. Rydym bob amser yn barod i dderbyn newid enw ar fyr

rybudd os bydd y cyfranogwr gwreiddiol yn gorfod canslo.

Children in Wales

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event