HYFFORDDIANT RHAD AC AM DDIM – Rhoi Cyfranogiad ar Waith

HYFFORDDIANT RHAD AC AM DDIM – Rhoi Cyfranogiad ar Waith

Trefnwyd gan:Children in Wales

Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2016; 1:30yp – 4:30yp,   Caerdydd

Bydd y gweithdy’n edrych ar gyfranogiad a’r berthynas rhyngddo a CCUHP a deddfwriaeth yng Nghymru megis y Mesur Hawliau Plant, y Mesur Plant a Theuluoedd, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y sesiwn yn archwilio ffyrdd ymarferol o gyflwyno cyfranogiad a’r sgiliau sydd eu hangen i ymgysylltu’n ystyrlon â phlant a phobl ifanc.

 

Canlyniadau Dysgu

 

Bydd y Cyfranogwyr yn:

  • Deall Cyfranogiad a sut mae’n galluogi Hawliau Plant
  • Archwilio Cyfranogiad a’i Fframwaith Cyfreithiol
  • Caffael sgiliau ymarferol ar gyfer cynnwys plant a phobl ifanc

Ar gyfer pwy mae wedi’i fwriadu?

Ymarferwyr, Rheolwyr a Llunwyr Polisi o bob sector a phob sefydliad sy’n awyddus i archwilio sut mae eu maes gwaith yn cydweddu â darlun ehangach polisi plant a theuluoedd yng Nghymru. Bydd yn helpu sefydliadau i baratoi ar gyfer newidiadau a ragwelir ac i weithredu’n effeithiol mewn cyd-destun amlasiantaeth.

 

Mae’r hyfforddiant ar gael AM DDIM ac wedi’i gyfyngu i 2 gyfranogwr o bob sefydliad.

 

I archebu lle yng Nghaerdydd, cliciwch YMA

 

**CANSLO**

Digwyddiad AM DDIM yw hwn, ond codir tâl o £50 ar gynrychiolwyr sydd ddim yn dod ar ôl cadw lle. Bydd modd i chi ganslo hyd at 2 ddiwrnod cyn y digwyddiad, a byddwn ni bob amser yn derbyn dirprwy os bydd y cyfranogwr a enwyd yn methu dod ar fyr rybudd.

Children in Wales

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event