Pobl Ifanc LHDTC: Gwneud pethau’n gwbl glir

Pobl Ifanc LHDTC: Gwneud pethau’n gwbl glir

Trefnwyd gan:Plant yng Nghymru
Person Cyswllt: Children in Wales
Gwefan: http://www.childreninwales.org.uk/item/young-lgbtq-people-making-perfectly-queer/
Lleoliad: Conwy

21 Mawrth 2017, Conwy – Archebu Ar-lein

Cwrs un-dydd

 

Bydd yr hyfforddiant yn edrych ar faterion LHDT a phobl ifanc. Y broses o ddod allan, materion megis bwlio, hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb i bobl ifanc. Sut mae cefnogi pobl ifanc, p’un a ydyn nhw’n hoyw, yn lesbiaidd, yn ddeurywiol, yn drawsrywiol neu’n cwestiynu. Bydd yn delio â materion megis diogelu, hunan-niweidio, camddefnyddio sylweddau a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant. Fe’i cynhelir gan ddefnyddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau.

 

Canlyniadau Dysgu

Bydd y Cyfranogwyr yn:

  • Meddu ar ddealltwriaeth o faterion LHDTC
  • Dysgu ffyrdd o gefnogi pobl ifanc LHDTC
  • Casglu gwybodaeth am ddiogelu pobl ifanc LHDTC
  • Caffael sgiliau ymarferol o ran adnabod pobl ifanc sydd mewn sefyllfa fregus o ran Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant

I bwy mae’r cwrs wedi’i fwriadu:

Ymarferwyr, Rheolwyr a Llunwyr Polisi o bob sector a phob sefydliad sy’n awyddus i archwilio sut gall eu gwaith gefnogi pobl ifanc LHDTC. Archwilio tueddiadau newydd o ran hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb a sut mae hynny’n effeithio ar ymarfer.

 

Ynghylch yr Hyfforddwr

Mike Mainwaring, Swyddog Hyfforddi

Mae Mike Mainwaring wedi gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc ers dros 20 mlynedd, yn arbenigo ym meysydd camddefnyddio sylweddau, digartrefedd ieuenctid, cyfranogiad a hawliau plant. Mae’n hyfforddwr cymwysedig, ac mae wedi hyfforddi plant, pobl ifanc ac oedolion ynghylch camddefnyddio sylweddau, materion LHDT, hawliau plant, cyfranogiad, delio gydag ymddygiad anodd, diogelu ac amddiffyn plant, Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a ffiniau. Mae hefyd wedi datblygu a chynnal prosiectau ymchwil dan arweiniad pobl ifanc. Mae wedi gweithio mewn amrywiol gyd-destunau megis prosiectau cyffuriau ar y stryd, adsefydlu preswyl, gwaith allgymorth, chwarae a gwaith ieuenctid, mae wedi rheoli prosiectau tai ac wedi bod â gofal am gynghorau ieuenctid. Mae ganddo gefndir ym myd celf, y mae’n ei ddefnyddio’n gyfrwng i weithio gyda phobl ifanc sydd mewn trallod, ac mae’n arddangos ei waith ei hun ar destunau cymdeithasol.

Adborth Cwrs:

“Roedd yr fideos a’r ymagwedd ymarferol yn wych – nid oedd yn teimlo lletchwith cymryd rhan, sydd yn anarferol.”

“Diolch yn fawr iawn. Mae wedi bod yn ddiddorol, yn wybodus ac yn gymorth mawr. Werthfawrogi’n fawr. Rwy’n gobeithio cael mwy o hyfforddiant gyda chi eto. Diolch”

Cost: Aelodau: £80          Heb fod yn aelodau: £100

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event