Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol wrth Ddiogelu Plant
Trefnwyd gan:Plant yng NghymruLleoliad: Rhyl
16 Tachwedd 2016, Y Rhyl – Archebwch Ar-lein
Cwrs undydd
Mae deall gwahaniaethau diwylliannol yn elfen bwysig o waith effeithiol gyda theuluoedd a phlant. Gall ymarferwyr a rheolwyr fod yn amharod i ymdrin â phryderon ynghylch lles plant oherwydd eu bod yn ofni cael eu cyhuddo o fod yn hiliol, yn anoddefgar neu’n rhagfarnllyd. Mae sicrhau cydbwysedd rhwng sensitifrwydd diwylliannol a gwneud dyfarniadau Gorllewinol ynghylch lles plant yn anodd.
Nod y cwrs hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth o hunaniaeth ddiwylliannol, ethnig a chrefyddol wrth ystyried materion diogelu mewn teuluoedd mudol, rhai sy’n ceisio lloches a ffoaduriaid. Bydd yn cynyddu’r ddealltwriaeth o risgiau diogelu penodol mewn teuluoedd a chymunedau ac yn meithrin hyder wrth ymdrin â materion diogelu gyda theuluoedd.
Mae’r cwrs ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda theuluoedd sy’n ceisio lloches, ffoaduriaid, neu deuluoedd mudol eraill BAME, mewn sefydliadau statudol, gofal cymdeithasol, iechyd neu addysg, grwpiau cymunedol a chymunedau o ffoaduriaid, gan gynnwys Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau yn Gyntaf, IFST ac ati.
Bydd y cwrs hwn yn cynnwys:
- Amddiffyn plant trwy lens ddiwylliannol
- Persbectifau diwylliannol ar fagu plant ymhlith teuluoedd o fewnfudwyr sy’n dod i Gymru
- Llurgunio Organau Rhywiol Merched, Trais ar sail ‘Anrhydedd’, Priodas dan Orfod, Cam-drin sy’n gysylltiedig â Chred mewn Dewiniaeth
- Hybu dulliau rhianta cadarnhaol ymhlith teuluoedd o fewnfudwyr
Ynghylch yr Hyfforddwr
Mae Cheryl Martin wedi gweithio gyda cheiswyr lloches dros nifer o flynyddoedd ac wedi datblygu’r cwrs yma drwy ei phrofiad o weithio gyda theuluoedd a gwarchod plant o fewn y cyd-destun diwylliannol.
Yn y gorffennol bu’n gweithio fel Rheolwr Gwasanaethau Plant gyda Chymorth i Fenywod yng Nghymru, y sefydliad dros gam-drin yn y cartref. Mae hefyd wedi hyfforddi ar osodiad cyfiawnder ieuenctid. Mae Cheryl yn gwnselydd cymwysedig ac yn ymarferydd datrys gwrthdaro yn gweithio fel cyfryngwr annibynnol dros nifer o flynyddoedd. Roedd yn ymddiriedolwr ac yn gadeirydd ar ddwy elusen dros y 12 mlynedd ddiwethaf.
Fel Hyfforddwr Achrededig Lefel 3 mae Cheryl wedi cyflwyno hyfforddiant mewn cam-drin yn y cartref a diogelu plant i gynulleidfa eang, yn cynnwys hyfforddiant aml-asiantaeth, statudol, gwirfoddol a phroffesiynol.
COST
Aelodau £80 Heb fod yn aelodau £100
Mae rhai o’n cyfranogwyr cwrs blaenorol wedi gwneud y sylwadau canlynol:
“Mae wedi bod yn ddiwrnod hynod ddifyr a llawn gwybodaeth – diolch”
“Cwrs diddorol iawn, y gwnes i ei fwynhau’n fawr. Hyfforddwr rhagorol. Diolch”
“Diddorol a defnyddiol iawn. Fe wnes i fwynhau’n arbennig cael gwybodaeth benodol am draddodiadau diwylliannol, e.e. Dewiniaeth, FGM”
“Cwrs da iawn, gydag amrywiaeth o weithgareddau ymarferol i ymgysylltu â’r grwpiau trafod. Wedi’i addysgu’n glir, gyda llu o ffeithiau diddorol. At ei gilydd, sesiwn hyfforddi ragorol, gyda digon i gnoi cil arno”
“Difyr, yn gwneud i chi feddwl, ac yn ddefnyddiol ar gyfer ymarfer”
Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â training@childreninwales.org.uk