Lansiad y protocol diweddaraf Rhieni gyda phroblemau iechyd meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau

Pauline Bird

Nod y Protocol trosfwaol hwn yw sicrhau bod plant i riant/rhieni gyda salwch meddwl difrifol neu sy’n camddefnyddio sylweddau yn cael y gefnogaeth fwyaf priodol ac yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn.  Mae gan asiantaethau gydgyfrifoldeb i amddiffyn plant.  Mae hyn yn gofyn bod gwasanaethau’n cyfathrebu ac yn cydlynu’n effeithiol, ar lefelau strategol a gweithredol.

Mae’n hanfodol bod yr holl Asiantaethau sy’n ymwneud â’r teulu yn cydweithio a chydweithredu’n agos.  Gall hyn gynnwys Gofal Cymdeithasol, Iechyd, Addysg, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a’r Sector Gwirfoddol.  Mae’r Protocol hwn yn darparu’r fframwaith ar gyfer cydweithio er mwyn sicrhau bod plant sy’n byw gydag oedolion â salwch meddwl difrifol a/neu sy’n camddefnyddio sylweddau, yn cael eu diogelu yng Ngogledd Cymru.

Mae angen i’r holl asiantaethau weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth â rhieni, lle bynnag y bo’n bosibl.  Polisiau a Gweithdrefnau – Plentyn

Gweler briff 7 munud hefyd – Asesiad Rhiant gyda Phroblemau Iechyd Meddwl. Briff 7 Munud

Leave a Comment