Pan fydd unigolyn yn mynd ar goll, mae’n achosi pryder mawr i deulu a ffrindiau a gall fod hyd yn oed yn fwy bryderes os yw’r unigolyn ar goll yn dioddef o ddementia. Mae Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru yn cefnogi lansiad Cynllun Herbert.
Offeryn syml i leihau risg yw Gynllun Herbert er mwyn cynorthwyo’r heddlu i chwilio am oedolion mewn perygl sydd yn mynd ar goll.
Mae’r ffurflen yn cael ei llenwi gan y person sydd mewn perygl, eu teulu neu eu gofalwyr. Dylid cadw’r ffurflen wedi’i chwblhau yn ddiogel gan ofalwyr, teulu neu ffrindiau, ond lle y gellir dod o hyd iddi’n gyflym yn yr achos anffodus pan fydd y person yn mynd ar goll. Dim ond os bydd y person yn mynd ar goll y bydd yr heddlu yn gofyn am y ffurflen.
Bydd Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru yn cynnal cynhadledd ranbarthol lle bydd Cynllun Herbert yn cael ei lansio.
I archebu lle yn y gynhadledd-ewch I Eventbrite