Wythnos ddiogelu ar yr agenda ar gyfer asiantaethau ar draws Gogledd Cymru

Hannah Cassidy

Bydd sefydliadau gofal cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus ledled Gogledd Cymru yn gwneud eu rhan i hyrwyddo Wythnos Genedlaethol Diogelu eleni (Tachwedd 12-16), gyda chymysgedd o ddigwyddiadau hyfforddi a gwybodaeth.

Mae digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Gogledd Cymru yn ystod yr wythnos yn cynnwys sesiynau ar ymwybyddiaeth hunan-niweidio, diogelu plant, caethwasiaeth fodern ac oedolion sydd mewn perygl.

Un o uchafbwyntiau’r wythnos yw cynhadledd flynyddol lle mae staff sy’n gweithio i’r gwahanol asiantaethau’n dod at ei gilydd i ddysgu am arferion da wrth ddiogelu, rhannu astudiaethau achos a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Dywedodd Jenny Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Conwy, sydd hefyd yn cadeirio Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru: “Mae Wythnos Genedlaethol Diogelu wedi sefydlu ei hun yn gyfle gwych i dynnu sylw at y gwaith da sy’n digwydd yn genedlaethol i wella lles pobl, ond i hysbysu’r cyhoedd hefyd am yr hyn y dylent ei wneud os oes ganddynt unrhyw bryderon.

“Mae plant ac oedolion sydd mewn perygl yn cyrchu ein gwasanaethau’n gyson ac mae diogelu yn gyfrifoldeb i ni i gyd.

“Os oes gan bobl y pryder lleiaf am blentyn neu oedolyn sydd mewn perygl, yna mae’n rhaid adrodd amdano. Mae gan bob asiantaeth bartner rôl glir i’w chwarae wrth sicrhau bod yr holl staff yn gwbl ymwybodol o’u cyfrifoldebau diogelu a sut y dylent roi gwybod am eu pryderon. Mae rhanbarth Gogledd Cymru yn falch o fod yn cefnogi’r ymgyrch genedlaethol hon eto eleni.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru: http://www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru  Mae manylion digwyddiadau unigol i’w gweld ar y wefan hon neu ar wefannau awdurdodau lleol unigol.

 

 

Leave a Comment