12 twyll y Nadolig

12 twyll y Nadolig

1. Nwyddau Ffug – Byddwch yn wyliadwrus o nwyddau ffug. Gall rhain amrywio o grysau-t o safon isel gyda logos ffug i nwyddau trydanol a all fod yn beryglus neu falu ar ôl eu defnyddio unwaith.

2. Twyll elusen – maent yn tueddu i weithredu mewn dwy ffordd allweddol: Drwy greu elusen hollol ffug ac apelio am gyfraniadau drwy wefan neu focsys cyfrannu. Camddefnyddio enw elusen gwirioneddol ac esgus apelio ar eu rhan, ond ni fydd yr elusen fyth yn gweld eich cyfraniad.

3. Trwyddedu teledu – Negeseuon e-bost ffug sy’n honni bod y derbynnydd wedi gordalu neu angen ad-daliad sydd heb ei dalu gan fod ganddynt y manylion cyfrif banc anghywir. Ond mae’r negeseuon e-bost hyn yn dwyllodrus i geisio dwyn manylion personol a chyfrif banc.

4. Ecsbloetio rhywiol – Mae’r bobl sy’n cael eu targedu gan y twyll e-bost hwn yn cael eu bygwth gyda fideos sensitif ohonynt, sydd ddim wir yn bodoli. Cânt eu hwynebu gyda’u cyfrinair yn y frawddeg gyntaf.

5. Twyll Rhif Ffôn – Eleni, mae cynnydd wedi bod mewn twyllwyr yn ffonio gan ymddangos eu bod yn cysylltu â’r dioddefwr o sefydliad go iawn, un ai ar nodwedd ID galwr neu anfonwr y neges.

6. Twyll cymorth technoleg – Gall hyn ddechrau gyda galwad ffôn neu e-bost neu neges yn ymddangos ar eich cyfrifiadur, yn datgan bod rhywbeth o’i le ar eich cyfrifiadur neu gysylltiad rhyngrwyd, a bod angen ei atgyweirio.

7. Twyll dynwared – Gall dwyllwyr ddynwared heddlu, staff y banc, asiantaethau’r llywodraeth neu gwmnïau cyfleustodau, a defnyddio eu safle o awdurdod ffug, i’ch perswadio i drosglwyddo arian allan o’ch cyfrif, neu glicio ar ddolen peryglus.

8. Twyll gwyliau – Mae nifer ohonom yn dechrau meddwl am archebu gwyliau yn yr haul. Ond mae troseddwyr yn ecsbloetio hyn, gan sefydlu gwefannau fila ffug i geisio eich twyllo i roi blaendal am lety gwyliau nad ydynt yn bodoli.

9. Twyll Cariad – Mae chwilio am gariad yn y Flwyddyn Newydd yn aml yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n ymuno â safleoedd ac apiau chwilio am gariad. Ond byddwch yn ymwybodol bod twyllwyr yn manteisio ar hyn.

10. Twyll Bitcoin – Mae twyllwyr yn defnyddio cefnogaeth ffug gan bobl enwog er mwyn gwneud i’w buddsoddiad Bitcoin ffug edrych yn un gonest.

11. Twyll WhatsApp – Dyma lle mae twyllwyr yn ceisio denu pobl i roi eu data personol yn gyfnewid am dalebau gyda chwmnïau mawr, megis Costa Coffee, Sainsbury’s a JD Sports.

12. Twyll y Farchnad – Y Nadolig diwethaf, collodd o leiaf 15,000 o siopwyr ar-lein, £11 miliwn drwy farchnadoedd ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol, megis Gumtree, Facebook Marketplace ac eBay. Ffonau symudol oedd yr eitem fwyaf cyffredin oedd twyllwyr yn eu defnyddio i ddenu pobl a dwyn eu harian.