- Lifewire Free Books
- Oxford Owl
- https://stories.audible.com/discovery: Amryw o lyfrau sain am ddim gan Audible, yn cynnwys llyfrau i blant ifanc, plant hŷn, plant yn eu harddegau a chlasuron llenyddol (does dim angen bod yn aelod).
- Stand together to beat Coronavirus: Gwyliwch gyngherddau rhithiol am ddim sy’n cael eu llwytho gan amryw o sêr, yn cynnwys Chris Martin a Niall Horan.
- Royal Opera House: Mae’r Tŷ Opera Brenhinol yn cynnig darllediadau byw o’i sioeau opera a ballet trwy gydol mis Ebrill, a gall cynulleidfaoedd ffrydio perfformiadau o’r radd flaenaf trwy ei sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ystod argyfwng y Coronafeirws. Byddant yn darlledu yn fyw ar YouTube bob nos Wener ym mis Ebrill, a gall hunan-ynyswyr fwynhau’r perfformiadau yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg ar draws y byd.
- Classic FM: Rhestr o bob digwyddiad neu gyngerdd clasurol sy’n cael eu ffrydio ar-lein. (efallai y bydd rhaid talu)
- National Theatre: Mae dramâu llawn ar gael bob dydd Iau ar sianel YouTube National Theatre. Cliciwch ar y ddolen i weld yr amserlen.
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English