Adolygiadau Ymarfer / Adolygiad Diogelu Unedig Sengl

Adolygiad Diogelu Unedig Sengl

Nod yr ADUS yw creu un broses adolygu sy’n ymgorffori dull gweithredu amlasiantaethol pan fodlonir y meini prawf ar gyfer un neu ragor o’r adolygiadau canlynol:

  • Adolygiad Ymarfer Oedolion (boed yn gryno neu’n estynedig);
  • Adolygiad Ymarfer Plant (boed yn gryno neu’n estynedig);
  • Adolygiad Lladdiad Domestig;
  • Adolygiad Lladdiad Iechyd Meddwl;
  • Adolygiad Lladdiad ag Arf Ymosodol24;

Nod yr ADUS yw:

  • osgoi’r angen i deuluoedd gymryd rhan mewn cylch beichus a phoenus o roi gwybodaeth ac aros am ganlyniadau sawl adolygiad;
  • sicrhau bod testun yr adolygiad a’u teuluoedd yn ganolog i’r broses;
  • defnyddio’r wybodaeth a’r gwersi sy’n deillio o broses yr Adolygiad i greu newid cadarnhaol yn ymarferol er mwyn atal niwed yn y dyfodol;
  • darparu cymorth cenedlaethol i’r Byrddau Diogelu sy’n cyflawni rôl gydgysylltu/ weithredol i oruchwylio’r broses o’r dechrau i’r diwedd drwy’r Hwb Cydgysylltu;

Gellir dod o hyd i’r ffurflen atgyfeirio Yma

NODER MAI DIM OND GWEITHWYR PROFESIYNOL Y GALL ATGYFEIRIADAU GAEL EU CYFLWYNO

Adolygiadau Ymarfer Plant

Mae’r meini prawf ar gyfer adolygiadau ymarfer plant/oedolion wedi’u nodi yn Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015. Daeth y trefniadau i rym ar 6 Ebrill 2016. Diben adolygiad yw nodi’r hyn a ddysgir ar gyfer ymarfer yn y dyfodol. Mae’n cynnwys ymarferwyr, rheolwyr ac uwch swyddogion wrth archwilio manylion a chyd-destun gwaith asiantaethau gyda phlentyn a theulu.

Mae gwybodaeth am Adolygiad Ymarfer Plant Gwynedd ar gael: YMA

Adolygiadau Ymarfer Oedolion

Cynhelir Adolygiadau Ymarfer Diogelu Oedolion ar ran Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru. Maent yn ffordd i bob asiantaeth bartner nodi’r gwersi y gellir eu dysgu o achosion Diogelu Oedolion arbennig o gymhleth neu anodd ac i roi newidiadau ar waith i wella gwasanaethau yng ngoleuni’r gwersi hyn.

Dylid cyflwyno ffurflenni drwy Uned Fusnes y Bwrdd Diogelu: Regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk

Adroddiadau, Canllawiau, Protocolau a gwybodaeth arall