Cynhelir Adolygiadau Ymarfer Diogelu Oedolion ar ran Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru. Maent yn ddull sy’n caniatáu pob asiantaeth partner i nodi’r gwersi y gellir eu dysgu o’r achosion Diogelu Oedolion arbennig o gymhleth neu anodd a gweithredu newidiadau i wella gwasanaethau yn sgil y gwersi hyn.
Cyhoeddir adroddiadau crynodeb ac argymhellion o Adolygiadau Diogelu Oedolion ar Wefan Diogelu Oedolion Gogledd Cymru
AYO – y Pwrpas:
Rhaid ystyried adolygiadau lle mae oedolyn mewn perygl:
- yn marw (gan gynnwys marwolaeth drwy hunanladdiad tebygol) neu
- yn dioddef anaf a allai fygwth bywyd neu nam hirsefydlog difrifol neu nam parhaol ar iechyd neu
- wedi bod yn destun camdriniaeth rywiol ddifrifol
- naill ai ei bod yn hysbys neu yr amheuir fod camdriniaeth neu esgeulustod yn ffactor gyfrannol
Gwneud cais am adolygiad:
Gall unrhyw aelod o’r Bwrdd Diogelu Oedolion, asiantaeth neu ymarferydd fynegi pryder am achos y maent yn credu y gallai fodloni’r meini prawf uchod ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Oedolion. Gall ceisiadau hefyd ddod o ffynonellau eraill fel y teuluoedd, y Crwner, Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Seneddol, cynghorwyr lleol ac unigolion eraill sydd â diddordeb.
Mae ffurflen atgyfeirio ar gyfer gael ei ystyried i’r gweld isod AYO yna dylid cyflwyno ffurflenni trwy eich Uwch Reolwr yn achos yr ALl neu ei anfon at y Cydlynydd Busnes ar gyfer y Bwrdd: Regionalsafeguarding@Denbighshire.gov.uk
Ffurflen-Gyfeirio-Ffurflen Gyfeirio
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English