Beth yw Cam-drin Plant?

Mae cam-drin plant yn cynnwys unrhyw weithred gan unigolyn arall – yn oedolyn neu’n blentyn – sy’n peri niwed sylweddol i blentyn. Gall fod yn gorfforol, yn rhywiol neu’n emosiynol, ond yn aml, gall hefyd ymwneud â diffyg cariad, gofal a sylw.

Bydd plentyn sy’n cael ei gam-drin yn aml yn profi mwy nag un math o gamdriniaeth, yn ogystal ag anawsterau eraill yn eu bywydau. Mae’n digwydd yn aml dros gyfnod o amser, yn hytrach na bod yn ddigwyddiad untro. A gall ddigwydd yn fwyfwy aml ar-lein.

Mae plentyn mewn perygl yn blentyn:

  • sy’n cael, neu mewn perygl o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed (gweler isod); ac
  • sydd ag anghenion gofal a chymorth (boed yr awdurdod yn diwallu unrhyw rai o’r anghenion hynny ai peidio)

Cam-drin corfforol – taro, slapio, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, atal rhywun yn ormodol neu cosbi’n amhriodol.

Cam-drin emosiynol / seicolegol – bygwth eu niweidio neu eu gadael, rheolaeth orfodol, codi cywilydd arnynt, cam-drin geiriol neu hiliol, arwahanrwydd neu dynnu’n ôl o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol.

 Cam-drin rhywiol – trais neu ymosodiad rhywiol neu weithredoedd rhywiol pan nad yw’r plentyn wedi rhoi caniatâd, neu pan nad oedd yn gallu gwneud hynny, ac/neu pan oedd dan bwysau i roi caniatâd.  Mewnosod dolen at dudalen camfanteisio’n rhywiol ar blant.

Cam-drin ariannol – bydd y categori hwn yn llai amlwg i blentyn, ond gallai dangosyddion gynnwys:

  • gweithgarwch anarferol mewn cyfrif banc gan gyd-lofnodydd;
  • peidio diwallu eu hanghenion gofal a chefnogaeth a ddarperir drwy daliadau uniongyrchol;
  • cwynion bod eiddo personol yn mynd ar goll.

Esgeulustod – peidio cael gafael ar ofal neu wasanaethau meddygol, esgeulustod wrth wynebu risg, peidio rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, peidio cynorthwyo gyda hylendid personol neu ddarparu bwyd, lloches, dillad; esgeulustod emosiynol.

Cam-drin domestig – Mae bod yn dyst i gam-drin domestig yn fater o gam-drin plant, a gall pobl ifanc yn eu harddegau ddioddef o gam-drin domestig yn eu perthnasau. Mae cam-drin domestig yn unrhyw fath o ymddygiad sy’n rheoli, yn bwlio, yn bygwth neu’n dreisgar rhwng pobl mewn perthynas. Gall cam-drin domestig hefyd gynnwys cam-drin emosiynol, corfforol, rhywiol, ariannol neu seicolegol.

Os ydych yn amau bod unigolyn mewn risg uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siaradwch gyda’r Heddlu.