Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi annog pobl i godi llais os byddant yn poeni am gam-drin plant, wrth i ymgyrch genedlaethol newydd gael ei lansio ar ddechrau’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol.
[Darllen ymhellach…] about Paid ag ofni bod yn anghywir – beth os wyt ti’n iawn?blog
Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru 13 – 17 Tachwedd 2023
Mae diogelu yn ymwneud â diogelu plant bregus ac oedolion rhag camdriniaeth ac esgeulustod a sicrhau eu lles. Mae sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn a hapus hefyd yn rhan bwysig o ddiogelu.
Bydd yr Wythnos Diogelu yn gweld ystod o weithgareddau ledled Cymru y mae aelodau’r gweithwyr proffesiynol a diogelu gweithwyr yn cael eu hannog i fynychu.
Gwneud yr Alwad

Gwneud yr Alwad
Mae hi’n wythnos #DiogeluCymru.
Rydym i gyd eisiau cadw ein plant a’n pobl ifanc yn ddiogel.
Gelli di wneud gwahaniaeth i ddiogelu plant. Dweud wrth bobl os ti’n meddwl bod angen help ar rywun. Cofia, cei rannu unrhyw pryderon yn ddienw.
Mae’n bwysig #GwneudYrAlwad
llyw.cymru/GwneudYrAlwad
Briffau 7 Munud Newydd
Mae’r canlynol wedi eu hychwanegu yn y Llyfrgell Ddogfennau y gellir dod o hyd iddi o dan y tab Adnoddau:
- Diogelu a Gofalwyr Anffurfiol
Adroddiad Blynyddol 2022 – 2023 BDGC
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol gynhyrchu Adroddiad Blynyddol i dynnu sylw at y graddau y mae’r Bwrdd Diogelu wedi gweithredu ei gynllun blynyddol diweddaraf. Felly, mae’n bleser gennym gyflwyno ein adroddiad blynyddol ar gyfer Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar gyfer 2022/ 23.