Mae yna 30,000 o ddioddefwyr hŷn o gamdriniaeth domestic yng Nghymru. [Darllen ymhellach…] about Neges gan Gomisiynydd Pobol Hŷn Cymru
blog
Cyhoeddi Adroddiad Cryno Adolygiad Plentyn : AYP Flint 2
Bu i Gadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru gomisiynu Adolygiad Ymarfer Plentyn Cryno yn Hydref 2014 yn dilyn marwolaeth plentyn 2 wythnos oed oedd yn adnabyddus i Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ond oedd ddim yn destun canllawiau amddiffyn plant. Nid oedd yn bosibl cadarnhau beth oedd achos marwolaeth y plentyn. [Darllen ymhellach…] about Cyhoeddi Adroddiad Cryno Adolygiad Plentyn : AYP Flint 2
14-18fed Mawrth 2016 – wythnos pilot Drama ynglyn a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant
“Risking it all”
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Diolgelu Gogledd Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth I gyflwyno prosiect pilot lle mae pobol ifanc yn cael y cyfle i weld drama sydd yn ymdrin a materion all beri pryder iddynt hwy a’u teuluoedd.
Mae Camfanteisio yn Rhywiol ar Blant, ynghyd a defnydd anaddas o gyfryngau cymdeithasol, camddefnydd alcohol a sylweddau yn faterion sydd yn cael ei amlygu mewn drama o ‘Risking it all’ sydd yn cael ei chyflwyno gan Gwmni Perfformio 2engage , o Brifysgol Caer. [Darllen ymhellach…] about 14-18fed Mawrth 2016 – wythnos pilot Drama ynglyn a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Cwrs i Rhieni ynglyn a Chamfanteisio Rhywiol ar Blant – ‘KEEP THEM SAFE’
Mae Pace (Parents against child sex exploitation), mewn partneriaeth a’r Virtual College, wedi lawnsio pecyn gwybodaeth rhyng-weithiol i rhieni ynglyn a’r arwyddion posibl bod eich plentyn yn cael ei gamddefnyddio yn rhywiol. Mae’r adnodd yma wedi ei ddatblygu er mwyn arfogi rhieni gyda gwybodaeth a’r dealltwriaeth o sut i ddiogelu plant rhag y math yma o gamdriniaeth.
Bydd y pecyn yma yn rhoi hyder i rhieni er mwyn gallu adnabod a thaclo y math yma o gamdriniaeth. Mae’r adnodd yn un rhyngweithiol ac bydd yn cymeryd 20-30 munud i’w gwbwlhau.
Bydd yr adnodd yn galluogi rhieni i gadw ei plant yn saff ac yn ei helpu i:
- wybod mwy am gamfanteisio yn rhywiol ar blant
- adnabod yr arwyddion all awgrymu bod eich plenty yn cael ei gamfanteisio.
- werthfawrogi effaith camfantais rhywiol ar y teulu
- wybod beth i’w wneud os ydych yn amau bod eich plenty mewn perygl o’r camdriniaeth yma
Gallwch gael mynedfa i’r adnodd hwn drwy gofrestu ar wefan PACE gan ddefnyddio eich cyfeiriad e bost. Byddwch yn derbyn cyfrinair er mwyn logio mewn a byddwch yn gallu arbed a chwbwlhau’r cwrs yn eich cyflymder eich hun neu ei ddefnyddio i gyfeirio yn ol. Cyfeiriad y wefan ydi www.paceuk.info/about-cse/keep-them-safe/
Cudd – Adnodd ar-lein i Bobol Ifanc 14-18 oed
‘Cudd’ – adnodd addysgol ar-lein ar gam-fanteisio rhywiol.
Cafodd yr adnodd yma , a ddatblygwyd gyda Barnardos Cymru ei lawnsio yng ngynhadledd Cadw dysgwyr yn ddiogel – ar 3 Rhagfyr 2015.
Bydd Barnardos Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi rhanbarthol hanner diwrnod ar draws Cymru a hanelu’n bennaf at ymarferwyr mewn ysgolion, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach a rhanddeiliaid allweddol eraill sy’n gweithio gyda 14 – 18 oed.
Diben yr hyfforddiant yw:
- Nod yr hyfforddiant yw helpu ymarferwyr addysg i ddeall eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau mewn perthynas ag atal camfanteisio rhywiol ar blant a diogelu plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin. Yn benodol, bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i ddefnyddio Cudd: Adnodd Addysgol am Gamfanteisio Rhywiol wrth gyflwyno sesiynau. Bydd hynny’n sicrhau bod pobl ifanc yn:
- deall y cysylltiadau rhwng dewis a chanlyniadau e.e. pa mor rhwydd ydyw i gael eich tynnu i mewn i gam-fanteisio rhywiol a pha mor anodd ydyw i ddianc rhagddo;
- cydnabod sefyllfaoedd sy’n peri risg a ffactorau sy’n gwneud pobl ifanc yn fwy agored i eraill camfanteisio arnynt yn rhywiol;
- siarad am yr effaith emosiynol a chorfforol y mae camfanteisio rhywiol yn ei chael ar bobl a dangos empathi at deimladau eraill;
- nodi’r prif bobl y gallant droi atynt i gael cymorth, dod o hyd i ffyrdd o leihau’r risgiau a llunio strategaethau i’w cadw eu hunain yn ddiogel.
Dyddiadau a lleoliadau yw:
Llandudno – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, LL31 9RZ
16 Chwefror 9:30 – 12:30 16 Chwefror 13:30 – 16:30
17 Chwefror 9:30 – 12:30 17 Chwefror 13:30 – 16:30
| :
|
Bedwas – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Tŷ Afon, Ffordd Bedwas, Bedwas, Caerffili, CF83 8WT
26 Chwefror 9:30 – 12:30 26 Chwefror 13:30 – 16:30
18 Mawrth 9:30 – 12:30 18 Mawrth 13:30 – 16:30
| |
Pen-y-bont – Canolfan Waterton, Ystad Ddiwydiannol Waterton, Pen-y-bont CF31 3WT
2 Mawrth 9:30 – 12:30 2 Mawrth 13:30 – 16:30
11 Mawrth 9:30 – 12:30 11 Mawrth 13:30 – 16:30
29 Mawrth 9:30 – 12:30 29 Mawrth 13:30 – 16:30
30 Mawrth 9:30 – 12:30 30 Mawrth 13:30 – 16:30
|
|
Merthyr Tudful – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ
23 Mawrth 9:30 – 12:30 23 Mawrth 13:30 – 16:30
|
|
Cyfyngir y lleoedd i 20 ar gyfer pob sesiwn a chaiff y lleoedd hynny eu neilltuo ar sail cyntaf i’r felin. Mae’r sesiynau am ddim a darperir lluniaeth. Cofrestrwch isod