Yn unol â phenderfyniad y Bwrdd, datblygwyd y canllawiau ymarfer a ganlyn, ac maent ar gael i gael golwg arnynt drwy wefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Pecyn canllawiau Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru (BDOGC) ar gyfer Penderfyniadau Diogelu Oedolion
Diben y ddogfen ganllawiau yw sicrhau bod ein hymateb rhanbarthol, ar y cyd i gadw pobl yn ddiogel, yn briodol ac yn gymesur i’r gamdriniaeth / esgeulustod a nodwyd neu’r perygl o hynny. Mae’r pecyn canllawiau wedi ei beilota gan nifer o Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru.
Cliciwch ar y ddolen isod i gael mynediad i’r ddogfen:
Adnodd-Cyfarwyddyd-Ymarfer-Rhanbarthol.
Protocol BDOGC ar gyfer rheoli adroddiadau lluosog o ddigwyddiadau rhwng oedolion mewn perygl.
Comisiynodd BDOGC y gwaith hwn yn dilyn ymateb y Bwrdd i ddogfen HASCAS ‘Adroddiad Ymchwil Annibynnol i’r Gofal a’r Driniaeth a Ddarparwyd ar Ward Tawel Fan: Gwersi a Ddysgwyd’. Y cam gweithredu oedd bod BDOGC yn creu canllaw amlasiantaeth er mwyn ymdrin ag adroddiadau lluosog o achosion o ddigwyddiadau rhwng Oedolion mewn Perygl, er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ar draws yr asiantaethau. Cyflwynwyd y canllaw ymarfer i’r Bwrdd ym mis Mawrth 2020.
Cliciwch ar y ddolen isod i gael mynediad i’r ddogfen: