Cartrefi i Wcráin: cynllun ceisiadau newydd i blant ar eu pen eu hunain

Pauline Bird

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nodyn canllaw ategol mewn perthynas â’r cynllun ceisiadau newydd ar gyfer plant ar eu pen eu hunain o Wcráin. Mae’n cynnwys dolenni i brif ganllawiau a dogfennau Llywodraeth y DU a ffynonellau cyngor a chymorth eraill: Cartrefi i Wcráin: cynllun ceisiadau newydd i blant ar eu pen eu hunain | LLYW.CYMRU

Mae’r adnoddau ynghlwm a ganlyn hefyd ar gael:

Recordiadau o sesiynau dysgu Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf: https://we.tl/t-dhck64Wl1Z

Cyflwyniad o’r sesiynau dysgu.

Cyflwyniad o gwestiynau cyffredin y sesiynau dysgu a gododd o’r sesiynau ym mis Gorffennaf.

Ar 10 Awst rhwng 2pm a 2.40pm, mae Llywodraeth y DU yn cynnal sesiwn ddysgu yn fyw ar Teams ar y cynllun ceisiadau newydd ar gyfer plant ar eu pen eu hunain o Wcráin. Os hoffech chi ymuno, defnyddiwch y ddolen hon: CLICK HERE TO JOIN THE LIVE EVENT

Leave a Comment