Mae’r canllawiau’n gymwys hyd nes y bydd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn eu tynnu’n ôl. Yn ystod y pandemig, mae egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r trefniadau diogelu a ddarperir gan DoLS yn dal i fod yn berthnasol.
Wythnos Diogelu
Croesi Ffiniau Siroedd
Er nad oes diffiniad swyddogol, mae gweithgaredd o’r fath yn ymwneud â gangiau troseddol o drefi mawr yn teithio i leoliadau llai i werthu heroin/cocên crac.
Mae gangiau troseddol sy’n croesi ffiniau siroedd yn fygythiad arwyddocaol i’r oedolion a’r plant bregus y maent yn dibynnu arnynt i gyflawni a/neu hwyluso eu gweithgaredd troseddol.
Os ydych yn bryderus am droseddu cysylltiedig â chyffuriau, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101/Crimestoppers yn anhysbys ar 0800 555 111.
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE) yn fath o gam-drin rhywiol. Mae’n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp yn manteisio ar anghydbwysedd grym i orfodi neu dwyllo plentyn neu unigolyn ifanc o dan 18 oed i gyflawni neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol.
Mae CSE yn drosedd ofnadwy sydd â chanlyniadau dinistriol a phellgyrhaeddol i’r dioddefwr, eu teulu a chymdeithas. Nid yw’n gyfyngedig i unrhyw un ardal ddaearyddol na chefndir ethnig na chymdeithasol.
Dywed y rhai sydd wedi dioddef CSE fod angen i weithwyr proffesiynol roi blaenoriaeth iddynt, bod yn amlwg effro i’w hanghenion, yn sylwgar, yn ymatebol ac yn ddibynadwy, gan barhau i roi cefnogaeth iddynt hyd yn oed os yw hynny’n mynd yn anodd weithiau.
Siaradwch â’r swyddog sy’n arwain ar Ddiogelu yn eich asiantaeth chi. Cyfeiriwch at Weithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan a Chanllawiau Cenedlaethol perthnasol i CSE.

Cogio
Cogio (cuckooing yn Saesneg) yw’r enw a ddefnyddir ar y weithred lle mae delwyr cyffuriau yn meddiannu cartref unigolyn diamddiffyn i’w ddefnyddio fel safle i ddelio cyffuriau ohono.
Mae gangiau troseddol yn targedu cartrefi pobl ddiamddiffyn i ddelio cyffuriau ohonynt. Gelwir hyn yn ‘cogio’ ar ôl arfer y gwcw o feddiannu nythod adar eraill, ac fel arfer does gan ddioddefwyr y trosedd hwn ddim dewis ond cydweithredu a’r troseddwyr.
Os ydych yn meddwl eich bod wedi canfod cartref lle mae cogio yn digwydd neu os ydych yn bryderus am droseddu cysylltiedig â chyffuriau, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101/Crimestoppers yn anhysbys ar 0800 555 111.
Secstio
Secstio
Ystyr ‘secstio’ yw anfon negeseuon o natur rywiol a/neu luniau neu fideos awgrymog. Mae modd anfon ‘secst’ drwy unrhyw wasanaeth negeseuon (apiau’r cyfryngau cymdeithasol, yn aml). Mae secstio hefyd yn cael ei alw’n Saesneg yn ‘trading nudes’, ‘dirties’, ‘nude selfies’ neu ‘pic-for-pic’.
A ydych chi’n holi’n gyson ynglŷn â defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol wrth asesuplentyn/teulu?
