11 – 15 Tachwedd 2019 – Rhaglen Digwyddiadau
Wythnos Diogelu
Lansiad y protocol diweddaraf Rhieni gyda phroblemau iechyd meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau
Nod y Protocol trosfwaol hwn yw sicrhau bod plant i riant/rhieni gyda salwch meddwl difrifol neu sy’n camddefnyddio sylweddau yn cael y gefnogaeth fwyaf priodol ac yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn. Mae gan asiantaethau gydgyfrifoldeb i amddiffyn plant. Mae hyn yn gofyn bod gwasanaethau’n cyfathrebu ac yn cydlynu’n effeithiol, ar lefelau strategol a gweithredol.
Mae’n hanfodol bod yr holl Asiantaethau sy’n ymwneud â’r teulu yn cydweithio a chydweithredu’n agos. Gall hyn gynnwys Gofal Cymdeithasol, Iechyd, Addysg, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a’r Sector Gwirfoddol. Mae’r Protocol hwn yn darparu’r fframwaith ar gyfer cydweithio er mwyn sicrhau bod plant sy’n byw gydag oedolion â salwch meddwl difrifol a/neu sy’n camddefnyddio sylweddau, yn cael eu diogelu yng Ngogledd Cymru.
Mae angen i’r holl asiantaethau weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth â rhieni, lle bynnag y bo’n bosibl. Polisiau a Gweithdrefnau – Plentyn
Gweler briff 7 munud hefyd – Asesiad Rhiant gyda Phroblemau Iechyd Meddwl. Briff 7 Munud
Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru 13 – 17 Tachwedd 2017
‘Mae diogelu yn fusnes i bawb’- dyna yw’r neges allweddol i holl drigolion Cymru wrth i Fyrddau Diogelu ledled Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol baratoi i lansio Wythnos Genedlaethol Diogelu ym mis Tachwedd (dydd Llun 13 i ddydd Gwener 17eg).
Gan weithio gyda phartneriaid o iechyd, y gwasanaethau brys, y trydydd sector ac eraill, mae’r Byrddau’n bwriadu codi ymwybyddiaeth pawb o ba ddulliau diogelu a’r sawl sefyllfa y gall godi.
[Darllen ymhellach…] about Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru 13 – 17 Tachwedd 2017
Wythnos Ddiogelu 2017
Peidiwch â cholli allan! Cymerwch ran yn yr Wythnos Ddiogelu
Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn Wythnos Ddiogelu Cymru Gyfan unwaith eto 13 – 17 Tachwedd a hoffem i’n partneriaid i gyd gymryd rhan.
Mae’r fenter ar y cyd hon yn cynnwys Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru, Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru ac fe’i defnyddir i hyrwyddo gweithgareddau diogelu ar draws y rhanbarth.
Wythnos Genedlaethol Diogelu – 14 – 18 Tachwedd – Lluniau
Dyma rai lluniau o’r Digwyddiad Ymwybyddiaeth Wythnos Diogelu
*Conwy – RGC Lluniau – Credyd: Phil Williams
- Wrecsam
- Wrecsam
- Caernarfon, Llyfregell
- Caernarfon, Llyfregell
- Sir Ddinbych
- Ynys Mon – Alwyn Jones
- Ynys Mon – Ann Griffith
- Ysbyty Glan Clwyd
- Sir Y Flint
- Sir Y Flint
- Cynhadledd NWSAB
- Cynhadledd NWSAB
- Cynhadledd NWSAB
- Cynhadledd NWSAB
- Cynhadledd NWSAB
- Cynhadledd NWSAB
- Cynhadledd NWSAB
- Cynhadledd NWSAB
- Cynhadledd NWSAB
- Cynhadledd NWSAB
- RGC – Conwy
- RGC – Conwy