Cefnogi pobl gyda dementia i gyfrannu at ymholiadau diogelu oedolion

Pauline Bird

Mae ymchwil wedi dangos bod oedolion hŷn gyda dementia yn fwy tebyg o brofi camdriniaeth ac esgeulustod na’r rhai heb ddiagnosis. Mae gan bobl sy’n byw gyda dementia hawl i fod yn rhydd o gamdriniaeth ac esgeulustod a ble mae camdriniaeth yn cael ei brofi, dylid cymryd camau i’w atal a’i rwystro.

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddiogelu oedolion. Fodd bynnag, bydd anghenion pobl gyda dementia yn amrywio yn fawr ac er mwyn diogelu pobl gyda dementia yn effeithiol, mae ymarferwyr angen gallu addasu eu harferion.  Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Brifysgol Caerfaddon, mae Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru wedi paratoi’r cyngor arferion da byr hwn:

Leave a Comment