Plant neu bobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol

Ymddygiad rhywiol niweidiol yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio plant neu bobl ifanc sy’n cam-drin plant eraill, pobl ifanc neu oedolion yn rhywiol.  Gall camdriniaeth rywiol a gyflawnir gan blant fod yr un mor niweidiol â chamdriniaeth rywiol gan oedolion, felly mae’n bwysig cofio effaith y gamdriniaeth ar y dioddefwr yn ogystal â chanolbwyntio ar driniaeth y plentyn neu berson ifanc sy’n arddangos yr ymddygiad rhywiol niweidiol.

Nodweddir ymddygiad camdriniol/amhriodol yn aml gan ddiffyg gwir ganiatâd, anghydbwysedd o ran grym a chamfanteisio.

Gall y ffin rhwng yr hyn sy’n gamdriniol a’r hyn sy’n rhan o arbrofi arferol mewn plentyndod neu ieuenctid fod yn aneglur. Bydd gallu gweithwyr proffesiynol i benderfynu a yw ymddygiad rhywiol plentyn yn ddatblygiadol, yn amhriodol neu’n gamdriniol yn dibynnu ar gysyniadau cysylltiedig gwir ganiatâd, anghydbwysedd o ran grym a chamfanteisio. Gallai hyn gynnwys plant sy’n arddangos amrediad o ymddygiad rhywiol problemus, fel dinoethiad anweddus, galwadau ffôn anweddus, ffetisiaeth, bwystfilgydiaeth, cam-drin oedolion neu blant yn rhywiol a lawrlwytho delweddau anweddus o blant oddi ar y rhyngrwyd.

Mae plant a phobl ifanc, yn enwedig os ydynt yn byw oddi cartref, yn agored i fwlio a cham-drin corfforol, rhywiol ac emosiynol gan eu cyfoedion. Dylid cymryd camdriniaeth o’r fath yr un mor ddifrifol â chamdriniaeth gan oedolyn bob amser. Dylid dilyn yr un gweithdrefnau diogelu plant ag sy’n berthnasol ar gyfer unrhyw blentyn sy’n dioddef neu mewn perygl o ddioddef Niwed Sylweddol o ffynhonnell niweidiol.

Caiff cyfran sylweddol o droseddau rhywiol eu cyflawni gan blant yn eu harddegau a chaiff troseddau o’r fath eu cyflawni gan blant iau o bryd i’w gilydd. Mae angen canllawiau eglur a hyfforddiant ar staff a gofalwyr plant sy’n byw oddi cartref i adnabod y gwahaniaeth rhwng caniatâd a chamdriniaeth a rhwng perthynas briodol a chamfanteisio ymysg cyfoedion. Ni ddylai staff ddiystyru ymddygiad rhywiol camdriniol fel rhywbeth “arferol” rhwng pobl ifanc ac ni ddylent ddatblygu trothwyon uchel cyn cymryd camau.

Fframwaith Ymddygiad Rhywiol Niweidiol yr NSPCC

Er mwyn penderfynu ar gwmpas y maes gwaith hwn, mae’r Bwrdd Diogelu yn un o’r cyntaf yn y DU i fabwysiadu Fframwaith Ymddygiad Rhywiol Niweidiol yr NSPCC.

Ynghlwm, mae’r offeryn archwilio a’r canllawiau cysylltiedig i helpu cwblhau’r offeryn archwilio.

HSB Audit tool