Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol

Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol yn ystyried Cam-drin Plant yn Rhywiol yn cynnwys Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant ac Ymddygiad Rhywiol Niweidiol.

Mae’r cynllun yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal Cam-drin Plant yn Rhywiol, i amddiffyn plant rhag cael eu Cam-drin Plant yn Rhywiol a chefnogi plant sy’n cael eu cam-drin yn rhywiol, ac mae’n cynnwys camau gweithredu i bartneriaid Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru sydd â rôl yn arwain y gwaith o roi’r cynllun ar waith trwy Grwpiau Cyflawni Lleol Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru.

Bydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru yn adrodd ar gynnydd yn erbyn camau perthnasol sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun hwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn adrodd ar gynnydd yn erbyn y camau a osodwyd ar gyfer y llywodraeth. Fe fydd yna dri cyfnod adrodd.

Mae’r Cynllun yn gosod 33 cam gweithredu yn erbyn 10 o brif amcanion y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddynt gael eu gweithredu erbyn 31 Rhagfyr 2021.

I gael ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen i lawrlwytho copi o Gynllun Gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru:

Gwybodaeth Ddefnyddiol a Dolenni

https://www.stopitnow.org.uk/wales/
https://www.diogelu.cymru/chi/c6/c6.p10.html
https://www.diogelu.cymru/chi/c6/c6.p6.html