Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2026 – Dydd Mawrth 10 Chwefror 2026

Hannah Cassidy

INFORMATION ICON picture of structure

Mae Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel yn ddiwrnod ymwybyddiaeth byd eang sydd yn annog plant, pobl ifanc ac oedolion i feddwl yn ofalus ynglŷn â sut rydym ni’n defnyddio’r byd ar-lein a thechnoleg ddigidol. Mae’n gyfle defnyddiol yn flynyddol i gael sgyrsiau eto am ddiogelwch ar-lein, lles ac ymddygiad digidol cyfrifol.

Y themâu ar gyfer 2026 ydi Technoleg glyfar, dewisiadau diogel – archwilio defnydd diogel a chyfrifol o Ddeallusrwydd Artiffisial.

Mae’n canolbwyntio ar ba mor gyflym mae DI a thechnolegau clyfar yn dod yn rhan o brofiadau plant ar-lein o ddydd i ddydd, ac mae yna bwyslais ar helpu pobl ifanc i fagu hyder, meddwl yn feirniadol a bod â chrebwyll da tra’n defnyddio adnoddau digidol, yn hytrach nag ofn neu gyfyngiadau. Ar gyfer y sector Addysg mae Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel yn gyfle i:

  • atgyfnerthu negeseuon sydd eisoes yn bodoli ynghylch diogelwch ar-lein
  • annog sgyrsiau agored sy’n briodol i oedran ynghylch DI a gwneud penderfyniadau digidol
  • atgoffa staff a theuluoedd bod diogelwch ar-lein yn gyfrifoldeb diogelu parhaus, nid rhywbeth untro

Mae adnoddau defnyddiol gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ar gael isod.

Awgrymiadau i rieni a gofalwyr: https://saferinternet.org.uk/safer-internet-day/safer-internet-day-2026/top-tips-for-parents-and-carers

Awgrymiadau i blant a phobl ifanc: https://saferinternet.org.uk/safer-internet-day/safer-internet-day-2026/top-tips-for-young-people

Gallwch gael mwy o wybodaeth yma: https://saferinternet.org.uk/safer-internet-day/safer-internet-day-2026

Gadael sylw