Cynhadledd Alcohol Concern Cymru : Achub Einioes

Cynhadledd Alcohol Concern Cymru : Achub Einioes

Trefnwyd gan:Alcohol Concern Cymru

 Deall y berthynas rhwng alcohol a hunan-laddiad fydd testun y drafodaeth yng nghynadledd flynyddol Alcohol Concern Cymru ar 22 Medi 2016 yn Gwesty’r Grand, Abertawe

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 yn marw trwy hunan-laddiad, tua thair gwaith y nifer sy’n cael eu lladd ar yr heolydd.

Yn aml, mae alcohol yn ffactor mewn hunan-laddiad a hunan-niweidio. Mae’n debyg bod tuag un ymhob pump o bobl sy’n eu lladd eu hunain yn ddibynnol ar alcohol, ac mae pobl sy’n yfed yn drwm yn llawer mwy tebygol o ddioddef iseldar a phryder.

Bydd y gynhadledd undydd hon yn annog trafodaeth am y cwestiynau allweddol, fel beth yw union natur y berthynas rhwng alcohol a hunan-laddiad, pwy sydd yn y perygl mwyaf, a sut gallwn ni gynnig y cymorth gorau i’r teulu a chyfeillion wedi hunan-laddiad.

Bydd cynhadleddwyr yn clywed gan arbenigwyr yn y maes, gan gynnwys Dr Eve Griffin o Sefydliad Cenedlaethol Iwerddon er Ymchwil i Hunan-laddiad, Dr Ann John o Brifysgol Abertawe, a Dr Roger T Webb o’r Ganolfan er Iechyd Meddwl a Diogelwch ym Manceinion.   http://www.alcoholconcern.org.uk/abertawe2016/

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event