BDPGC & NSPCC Digwyddiad Cymuned Ymarfer
Trefnwyd gan:BDPGC & NSPCCPerson Cyswllt: Hannah Cassidy
E-bost: regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
Gwefan: https://www.eventbrite.co.uk/e/nwscb-nspcc-community-of-practice-event-tickets-90794822759
Ffôn: 01824 712903
Lleoliad: Clwb Rygbi Rhyl, Ffordd Tynedydd, Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 4AQ
Mae Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru a’r NSPCC yn falch y bydd y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol yn bresennol yn y Digwyddiad Cymuned Ymarfer nesaf, ddydd Iau 27 Chwefror yng Nghlwb Rygbi’r Rhyl.
Crynodeb
- Ymchwil ynglŷn ag arfau asesu risg a’r defnydd o arfau o’r fath wrth ymarfer.
- Adnabod achosion o Gam-drin Plant yn Rhywiol a chodi ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol allweddol i nodi ac ymateb i hynny. Bydd gwybodaeth yn cael ei darparu am y rhaglen LEADS ac ymarferoldeb darparu hon yng Nghymru fel rhaglen ranbarthol.
- Darganfyddiadau o’r ymchwil diweddar am gofnodion Awdurdodau Lleol yng Nghymru ynglŷn â chasglu data am Gam-drin Plant yn Rhywiol: Datgelu faint o achosion o gam-drin plant yn rhywiol sydd mewn cofnodion gofal cymdeithasol
- Rôl y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol o ran cyflawni Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Cymru ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
Er mwyn llogi lle dilynwch y dolen isod os gwelwch yn dda:
https://www.eventbrite.co.uk/e/nwscb-nspcc-community-of-practice-event-tickets-90794822759