Cefnogi Rhieni i Amddiffyn Plant Ar-lein

Cefnogi Rhieni i Amddiffyn Plant Ar-lein

Trefnwyd gan:Children in Wales
Lleoliad: Y Rhyl

12 Gorffennaf 2016, Y Rhyl – Archebu Ar-lein

 

Nod y cwrs undydd hwn yw cyflwyno agwedd gytbwys, heb or-gyffroi, a fydd yn helpu gweithwyr proffesiynol i hysbysu a chefnogi rhieni i amddiffyn plant pan fyddan nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd. Mae’r cwrs wedi’i fwriadu ar gyfer amrywiaeth eang o ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd, gan gynnwys rhai sy’n gweithio i Teuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a gofalwyr maeth.

 

Mae llawer o rieni heddiw’n teimlo’n analluog i amddiffyn eu plant ar-lein. Maen nhw’n teimlo’n ddiymadferth wrth wynebu technoleg dydyn nhw ddim yn ei deall yn llwyr, tra bod eu plant yn ymddangos yn gwbl gartrefol ymhlith dyfeisiau technegol sy’n gallu defnyddio’r we. Sut gall pobl sy’n gweithio gyda theuluoedd helpu rhieni i amddiffyn eu plant yn well?

 

Oherwydd y llif cyson o hanesion am gam-drin plant ar-lein yn y cyfryngau, gall rhai rhieni orymateb, a chyfyngu mynediad i bopeth, tra bydd eraill yn teimlo wedi’u llethu, yn croesi bysedd, ac yn gobeithio na fydd hynny’n digwydd i’w plentyn nhw. Oes yna ffordd ddiogel i blant ddefnyddio cyfleoedd y Rhyngrwyd ar gyfer dysgu a chael hwyl, ochr yn ochr ag osgoi’r risgiau? Sut gallwn ni helpu rhieni i gefnogi defnydd diogel eu plant o dechnoleg fodern?

 

Bydd y cwrs yn edrych ar rai o’r risgiau a’r peryglon gwirioneddol ac yn trafod y pryderon, ochr yn ochr â chwalu rhai o’r mythau a’r ffeithiau sy’n camarwain. Bydd cyfle i ymarferwyr drafod materion sy’n cael eu codi gan rieni, a chael peth profiad ymarferol o greu lleoliadau diogel ar rai o’r dyfeisiau mwyaf poblogaidd mae plant yn eu defnyddio.

 

Bydd y cwrs yn archwilio:

  • Trais gwirioneddol a thrais ar-lein
  • Siarad â phlant am bornograffi
  • Y posibilrwydd o fynd yn gaeth i weithgareddau ar-lein
  • Cyfryngau cymdeithasol, paratoi pobl ar gyfer ymddygiad penodol a negeseuon testun rhywiol (sexting)
  • Sylwi ar arwyddion sy’n rhybuddio ynghylch camdriniaeth ar-lein
  • Camau paratoi a radicaleiddio
  • Sensoriaeth a chanfod deunydd oed-briodol
  • Mesurau rheoli i rieni a sut mae eu rhoi yn eu lle

Ynghylch yr Hyfforddwr

 

Mae Jon Trew yn hyfforddwr profiadol ym maes amddiffyn plant, gan ei fod wedi cyflwyno hyfforddiant i grwpiau mor amrywiol â staff cynnal tai, deintyddion a gweithwyr gofal plant. Mae gan Jon brofiad eang o weithio gyda phlant o bob oed a chefndir, gan iddo reoli canolfan blant, meithrinfa, clwb ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau. Mor gynnar â’r 1990au, roedd Jon yn frwd dros ddefnyddio cyfrifiaduron i weithio gyda phlant mor ifanc â 4 neu 5 oed, ac mae wedi parhau i hybu ffyrdd diogel i blant ifanc gael mynediad i’r rhyngrwyd a chyfryngau electronig eraill. Mae gan Jon brofiad helaeth o weithio wyneb yn wyneb â phlant, yn ogystal â dealltwriaeth fanwl o’r heriau technegol a ddaw yn sgîl hynny. Fel y dywedodd Jon “Dangosodd astudiaeth ym mis Hydref 2011 fod y plant sy’n defnyddio cyfrifiaduron, ar gyfartaledd, yn dechrau gwneud hynny yn 3½ oed, tra bod hanner y plant o dan 8 yn yr Unol Daleithiau yn gallu cyrchu dyfais symudol fel ffôn clyfar, iPad neu dabled arall. Mae’r Rhyngrwyd yn cynnig cyfleoedd aruthrol i’n plant archwilio, dysgu a mwynhau, ond ochr yn ochr â manteision y chwyldro hon ceir bygythiadau ac anawsterau. Mae aros nes bod plant yn cyrraedd eu harddegau cynnar cyn ystyried diogelwch ar y rhyngrwyd yn rhy hwyr.  Rhaid i rieni, athrawon a phob gweithiwr gofal plant proffesiynol ymateb i’r her hon a sicrhau eu bod yn medru tywys, monitro ac amddiffyn ein plant yn yr oes newydd hon”.

 

Cost

Aelodau: £115

Heb fod yn aelodau: £135

 

 

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â training@childreninwales.org.uk

 

Children in Wales

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event