Cyflwyniad i Ganlyniadau Meddal a’r Pellter a Ddeithiwyd

Cyflwyniad i Ganlyniadau Meddal a’r Pellter a Ddeithiwyd

Trefnwyd gan:Children in Wales
Lleoliad: Rhyl

03 Tachwedd 2016, Y Rhyl – Archebu Ar-lein

 

Cwrs undydd

 

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill eleni, ac mae’n rhoi ffocws newydd ar wasanaethau’n cefnogi canlyniadau llesiant y bobl sy’n rhan o’u gwaith. Defnyddir y term ‘llesiant’ i gyfeirio at ansawdd bywydau pobl, ac mae’n cwmpasu agweddau goddrychol a gwrthrychol. Mae llesiant goddrychol yn canolbwyntio ar ganlyniadau meddal megis sut mae pobl yn teimlo a’u canfyddiad o’u bywydau a’u nodau personol.  Mae llesiant gwrthrychol yn canolbwyntio ar yr amodau sy’n effeithio ar y teimladau hynny, megis iechyd neu addysg, sy’n haws eu mesur ar ffurf canlyniadau caled.  Mae’r ddau bersbectif yma’n werthfawr er mwyn deall llesiant plant.

 

Mae’r cwrs ar gyfer rheolwyr ac ymarferwyr sydd am ddangos bod ei ymyrraeth wedi gwneud gwahaniaeth i’r bobl a gefnogir ganddynt. Mae cyllidebau dan bwysau a rhaid i bob sefydliad ystyried darbodusrwydd ac effeithlonrwydd, ond mae’n bwysig cadw golwg ar effeithiolrwydd gwasanaethau. Bydd y cwrs yn edrych ar bwysigrwydd mesur canlyniadau meddal y mae eich ymyrraeth wedi eu cyflawni i’r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw. Bydd cyfranogwyr yn archwilio ystod eang o offer creadigol y gellir eu defnyddio gyda phob grwp o blant i bobl ifanc.

Bydd y cwrs yn cynnwys:

  • Y farn bresennol ar natur a nodweddion Awtistiaeth
  • Ymagweddau seiliedig ar dystiolaeth at chwarae, datblygiad cymdeithasol, lles teulu ac ymddygiad
  • Strategaethau i gefnogi cyfathrebu a rhannu sylw

COST: 

Aelodau: £80              Heb fod yn aelod:  £100

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â training@childreninwales.org.uk

Children in Wales

 

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event