Cynhadledd 2016 Alcohol Concern Cymru : Achub Einioes
Trefnwyd gan:http://www.alcoholconcern.org.uk/abertawe2016/Lleoliad: Gwesty'r Grand Abertawe
Cnhadledd 2016 Alcohol Concern Cymru | Achub einioes: Deall y berthynas rhwng alcohol a hunan-laddiad – dyma fydd thema cynhadledd flynyddol yn Abertawe ar 22/9/16, lle bydd ystyriaeth o’r cysylltiad cymhleth rhwng alcohol a hunan-laddiad.
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 yn marw trwy hunan-laddiad, tua thair gwaith y nifer sy’n cael eu lladd ar yr heolydd.
Yn aml, mae alcohol yn ffactor mewn hunan-laddiad a hunan-niweidio. Mae’n debyg bod tuag un ymhob pump o bobl sy’n eu lladd eu hunain yn ddibynnol ar alcohol, ac mae pobl sy’n yfed yn drwm yn llawer mwy tebygol o ddioddef iseldar a phryder.
Bydd y gynhadledd undydd hon yn annog trafodaeth am y cwestiynau allweddol, fel beth yw union natur y berthynas rhwng alcohol a hunan-laddiad, pwy sydd yn y perygl mwyaf, a sut gallwn ni gynnig y cymorth gorau i’r teulu a chyfeillion wedi hunan-laddiad.
Bydd cynhadleddwyr yn clywed gan arbenigwyr yn y maes, gan gynnwys Dr Eve Griffin o Sefydliad Cenedlaethol Iwerddon er Ymchwil i Hunan-laddiad, Dr Ann John o Brifysgol Abertawe, a Dr Roger T Webb o’r Ganolfan er Iechyd Meddwl a Diogelwch ym Manceinion. http://www.alcoholconcern.org.uk/abertawe2016/