Cynhadledd Blynyddol 2019 Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Trefnwyd gan:NWSBE-bost: regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
Ffôn: 01824 712903
Lleoliad: Canolfan Busnes Conwy, Llandudno Junction
“Meddyliwch yr annychmygol”
“Mae’n ymwneud ag edrych ar bob achos a meddwl ‘Mae’n rhaid i mi feddwl yr annychmygol hyd yn oed os byddaf yn ei ddiystyru ar sail tystiolaeth’. Mae angen o leiaf meddwl am y peth”. John Fitzgerald oedd y gweithiwr cymdeithasol a arweiniodd yr adolygiad i lofruddiaethau plant yn nwylo Fred a Rosemary West.
Ymddangosodd y dyfyniad “Meddyliwch yr annychmygol” hefyd mewn adroddiad diweddar Adolygiad Ymarfer Plant Gogledd Cymru.
Yng nghynhadledd flynyddol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru byddwn yn cael y cyflwyniadau canlynol:
- Dysgu o Ymgyrch Jasmine – Bydd teuluoedd perthnasau sydd wedi dioddef camdriniaeth o fewn Cartrefi Gofal yn Ne Cymru yn siarad am eu profiadau.
- ‘Smash Life UK’ – mae Andy a Matt Smith yn frodyr a cafodd ei lleoli o fewn y system gofal gan wasanaethau cymdeithasol yn dilyn esgulustod gan ei rhieni biolegol. Yna, cawsant eu cam-drin gan yr union bobl y cawsant eu lleoli â hwy gan y gwasanaethau cymdeithasol, ganobeithio mai eu mam a’u tad cariadus newydd fyddai eu rheini rhwng 1990-1998.
- Dysgu Ymarfer allweddol o adolygiadau ymarfer oedolion/plant yng Ngogledd Cymru a ddarperir gan ‘AFTAThought’ sy’n arbenigo mewn hyfforddiant trwy ddrama. Bydd y senarios a’r sefyllfaoedd a grëir yn eich helpu i adnabod ac atgyfnerthu’r dysgu allweddol o adolygiadau ymarfer oedolion a plant diweddar o Ogledd Cymru a chynyddu eich dealltwriaeth o gyfrifoldebau unigolion a grwpiau wrth ddiogelu.
Er mwyn llogi eich lle, ewch i: