Diogelu – Gwneud Pethau’n Iawn, Gyda’n Gilydd
Trefnwyd gan:Cyngor Bwrdeistref Sirol/CVSC/Cyngor Gweithredu Gwirfoddol CymruPerson Cyswllt: CVSC
E-bost: mail@cvsc.org.uk
Ffôn: 01492 534091
Lleoliad: Clwb Cymunedol Cyffordd Llandudno Victoria Drive, Deganwy, 09.30 - 12.30
Annwyl Gydweithiwr
“Gwneud Pethau’n Iawn, Gyda’n Gilydd” yw neges allweddol ein digwyddiad arloesol ar y cyd i gydnabod yr Wythnos Ddiogelu Genedlaethol ac Wythnos Ymddiriedolwyr 2018.
Ymunwch â ni ar 16eg Tachwedd, rhwng 9.30am a 12.30pm yng Nghlwb Cymunedol Cyffordd Llandudno, i gael gwybod mwy ac i weld sut gallwn ni i gyd gefnogi ein gilydd i wneud Conwy’n lle diogelach i bawb.
Yn cael ei gynnal ar y cyd gan CGGC, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r WCVA, bydd y digwyddiad yn rhoi sylw i Ddiogelu yn fusnes i bawb, gan gydweithio i roi hynny ar waith, a sicrhau bod cefnogaeth, adnoddau, hyfforddiant a gwybodaeth ar gael i helpu i wneud pethau’n iawn.
Ochr yn ochr â’r sefydliadau cynnal, bydd cyflwyniadau gan y Comisiwn Elusennau a Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, gyda stondinau gwybodaeth gan amrywiaeth o sefydliadau sy’n hybu’r gefnogaeth sydd ar gael yn y sir.
Os ydych chi’n sefydliad trydydd sector neu’n bartner yn gweithio yng Nghonwy, mae’r digwyddiad yma ar eich cyfer chi!
Associated Downloads
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English