Gweithio’n Gadarnhaol gyda Phlant Awtistig yn y Blynyddoedd Cynnar

Gweithio’n Gadarnhaol gyda Phlant Awtistig yn y Blynyddoedd Cynnar

Trefnwyd gan:Children in Wales
Lleoliad: Caerdydd

28 Mehefin 2016, Caerdydd – Archebu Ar-lein

Cwrs undydd 

 

Mae’r cwrs ar gyfer rheolwyr ac ymarferwyr sydd am ddangos bod ei ymyrraeth wedi gwneud gwahaniaeth i’r bobl a gefnogir ganddynt. Mae cyllidebau dan bwysau a rhaid i bob sefydliad ystyried darbodusrwydd ac effeithlonrwydd, ond mae’n bwysig cadw golwg ar effeithiolrwydd gwasanaethau. Bydd y cwrs yn edrych ar bwysigrwydd mesur canlyniadau meddal y mae eich ymyrraeth wedi eu cyflawni i’r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw. Bydd cyfranogwyr yn archwilio ystod eang o offer creadigol y gellir eu defnyddio gyda phob grwp o blant i bobl ifanc.

Bydd y cwrs yn cynnwys:

  • Y farn bresennol ar natur a nodweddion Awtistiaeth
  • Ymagweddau seiliedig ar dystiolaeth at chwarae, datblygiad cymdeithasol, lles teulu ac ymddygiad
  • Strategaethau i gefnogi cyfathrebu a rhannu sylw

 

Ynghylch yr Hyfforddwr

Therapydd Chwarae sydd â chymhwyster BAPT yw Gabrielle Eisele, ac mae hi wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig ers dros 30 mlynedd. Mae Gabrielle wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn rolau mor amrywiol ag eiriolwr arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc anabl,  gweithiwr datblygu anghenion arbennig, Ymgynghorydd i Ymddiriedolaeth Cronfa’r Teulu, gweithiwr Portage, athrawes ysgol uwchradd, darlithydd coleg a phrifysgol, a gweithiwr plant i Cymorth i Fenywod, yn ogystal â darparu hyfforddiant ym mhob maes sy’n ymwneud â lles a datblygiad plant, ymwybyddiaeth o anabledd ac Awtistiaeth ledled Cymru.

Ym maes seicoleg y mae cefndir academaidd Gabrielle, gyda BSc (Anrh), MSc mewn Seicoleg, Diploma Uwch mewn Cynnal Ymddygiad Cadarnhaol, MA mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig, ac MSc mewn Therapi Chwarae. Mae Gabrielle yn ymarfer therapi yn breifat, a hi yw cyfarwyddwr a sylfaenydd Canolfan Windfall yng nghanolbarth Cymru.

 

COST: 

Aelodau: £115

Heb fod yn aelod:  £135

 

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â training@childreninwales.org.uk

 

Children in Wales

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event