Hawliau Plant a Chyfranogiad
Trefnwyd gan:Children in WalesLleoliad: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin
Dydd Mercher, 15 Mehefin 2016, 10.30am – 4pm
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin
Bydd y gynhadledd yn troi sbotolau ar ein dealltwriaeth o hawliau plant a chyfranogiad, a beth mae’n ei olygu i blant, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol ac academyddion yng Nghymru yn 2016.
Byddwn ni’n edrych ar yr heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n datblygu ymarfer cyfranogol, ac yn arddangos enghreifftiau o arfer arloesol.
Rydym wrth ein bodd bod Nadine Farmer, Bryani Kelly a Bethany Roberts o Gynulliad Ieuenctid Sir Benfro yn cyd-gadeirio’r gynhadledd ac mae’r siaradwyr yma wedi eu cadarnhau hyd yn hyn:
– Dr Jacky Tyrie, Darlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar, a fydd yn rhoi trosolwg o hawliau plant a chyfranogiad yn y blynyddoedd cynnar
– Yr Athro Barry Percy-Smith, PhD PGCE, Athro Plentyndod, Ieuenctid ac Ymarfer Cyfranogol, Prifysgol Huddersfield, sydd wedi ysgrifennu’n helaeth ar y pwnc
– Sarah Griffith, Swyddog Cyfranogi, Comisiynydd Plant Cymru ac Ysgol Iau Dinbych y Pysgod a fydd yn cyflwyno eu gwaith o amglych Cynllun Llysgenhadon Gwych
– Marianne Mannello, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Polisi, Cymorth ac Eiriolaeth, Chwarae Cymru a fydd yn amlinellu’r gwaith y maent wedi bod yn ei wneud gyda phlant hyn o amgylch chwarae a chyfranogiad
– Sarah Powell, Swyddog Cyfranogiad, Cyngor Sir Caerfyrddin a fydd yn cyflwyno gwaith Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a sut mae hawliau plant yn ymddangos yn eu gwaith. Bydd hi hefyd yn tynnu sylw at yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a’r hyn y gellid ei wneud i wneud pethau’n well
Rydym hefyd yn gobeithio croesawu’r Gweinidog newydd sydd gyda chyfrifoldebau ar gyfer plant a phobl ifanc.
I gloi’r diwrnod bydd sesiwn Holi ac Ateb gyda phanel o siaradwyr. I gael rhagor o fanylion ac i gadw lle, ewch i’n gwefan: www.plantyngnghymru.org.uk/digwyddiadau
Bydd cyfleoedd i arddangos hefyd ar gael yn y gynhadledd – i gadw lle, anfonwch e-bost i membership@childreninwales.org.uk Fe fydd cost of £50 am hyn (ar ben ffi’r gynhadledd)
COST: Aelodau £75 Eraill £95
Associated Downloads
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English