NSPCC – Graded Care Profile 2: Mesur Gofal, Helpu Teuluoedd

NSPCC – Graded Care Profile 2: Mesur Gofal, Helpu Teuluoedd

Trefnwyd gan:NSPCC
Gwefan: https://www.eventbrite.co.uk/e/gcp2-measuring-care-helping-families-mesur-gofal-helpu-teuluoedd-conwy-tickets-33987786384
Lleoliad: Canolfan Busnes Conwy, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX

Rydym yn eich gwahodd i sesiwn gwybodaeth am ddim am Graded Care Profile 2

Esgeulustod yw un o’r ffurfiau peryclaf ar gam–drin a gall greu effeithiau difrifol sy’n para am hir i blant a’u teuluoedd. Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, dyma’r rheswm mwyaf cyffredin i blentyn fod ar y gofrestr amddiffyn plant yng Nghymru. Ond mae’n gallu bod yn anodd adnabod esgeulustod yn aml, ac wedyn mae’n anodd gwneud penderfyniadau am ofal yn y dyfodol. Ond gyda’r adnodd asesu priodol yn ei le, gallwn fesur ansawdd y gofal sy’n cael ei roi i blentyn, a’i gwneud yn haws i weithwyr proffesiynol ganfod unrhyw beth sy’n golygu bod plentyn yn wynebu risg o niwed. Mae cyfle cyffrous i nifer bychan o awdurdodau lleol / byrddau diogelu yng Nghymru weithio gyda’r NSPCC i brofi’r adnodd Graded Care Profile 2 (GCP2) ymhellach yng Nghymru

Cynhelir sesiynau gwybodaeth ar y dyddiau canlynol:

Conwy

12fed o Fai  2017

13:00 – 16:00

Canolfan Busnes Conwy, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX  

Cofrestrwch nawr

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event