Pobl Ifanc a Chamddefnyddio Sylweddau: Pam nad yw’r Cyffuriau’n Gweithio?
Trefnwyd gan:Children in Wales28 CHWEFROR 2017, CONWY – Archebwch Ar-lein
Cwrs undydd
Bydd yr hyfforddiant yn edrych ar gamddefnyddio sylweddau a phobl ifanc. Bydd y cwrs yn amlinellu cyffuriau, alcohol a sylweddau anterth cyfreithlon ac anghyfreithlon. Bydd yr hyfforddiant yn edrych ar sylweddau newydd a’r ymddygiad sy’n deillio o’u defnyddio. Bydd yn helpu’r cyfranogwyr i greu strategaethau ar gyfer delio gyda defnydd pobl ifanc a’r ymddygiad anodd a pheryglus a all ddeillio ohonynt. Bydd yn archwilio’r berthynas rhwng camddefnyddio sylweddau a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, a sut mae diogelu pobl ifanc. Fe’i cynhelir gan ddefnyddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau.
Canlyniadau Dysgu
Bydd y Cyfranogwyr yn:
- Meddu ar ddealltwriaeth o sylweddau a chamddefnyddio sylweddau
- Dysgu ffyrdd o gefnogi pobl ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau
- Gwybod sut mae adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o ddioddef Camfanteisio Rhywiol
- Casglu gwybodaeth am ddiogelu pobl ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau
- Caffael sgiliau ymarferol ar gyfer ymdopi ag ymddygiad pobl ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau
Ar gyfer pwy mae wedi’i fwriadu?
Ymarferwyr, Rheolwyr a Llunwyr Polisi o bob sector a phob sefydliad sy’n awyddus i archwilio sut gall eu gwaith gefnogi pobl ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau. Archwilio tueddiadau newydd o ran camddefnyddio sylweddau megis sylweddau anterth cyfreithlon a chyffuriau seicoweithredol eraill.
COST:
Aelodau: £80 Heb fod yn aelodau: £100
Mae hyfforddiant yma hefyd yn cael ei gynnig yn fewnol, cysylltwch a
training@childreninwales.org.uk am fwy o wybodaeth.