Reflect – Symud ymlaen gyda gobaith
Trefnwyd gan:Barnardo's CymruPerson Cyswllt: Barnardo’s Cymru
E-bost: agnieszka.antczak@barnardos.org.uk
Gwefan: https://www.eventbrite.co.uk/e/moving-forward-with-hope-symud-ymlaen-gyda-gobaith-tickets
Lleoliad: Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
Mae Barnardo’s Cymru ar y cyd â Llywodraeth Cymru yn awyddus i’ch gwahodd i ail Gynhadledd flynyddol Reflect
Symud ymlaen gyda gobaith
Dyddiad: 13 Chwefror 2020
Lleoliad: Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
Mae rhaglen Reflect yn cefnogi menywod a’u partneriaid lle mae un neu ragor o blant wedi eu cymryd oddi arnyn nhw drwy achosion gofal ac sy’n wynebu risg mawr y bydd rhagor o blant yn cael yr un profiad. Mae Reflect yn cynnig cymorth dwys dros dymor hir i’r menywod hyn a’u partneriaid. Mae’n cynnig cymorth ymarferol, cymdeithasol a therapiwtig, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau newydd a chymryd camau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
Y prif siaradwyr: Yr Athro Karen Broadhurst a Dr Claire Mason, Prifysgol Caerhirfryn
Nod y gynhadledd fydd:
- Clywed yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth Reflect
- Rhannu effaith a chynnydd cadarnhaol mae prosiect Reflect wedi’i alluogi neu wedi’i gefnogi
- Trafod arferion gorau a heriau cyffredin wrth weithio â menywod a dynion sy’n rhan o achosion gofal plant
- Rhannu’r gwerthusiad o adroddiad gwerthuso Cascade ar fodel darparu Reflect
Archebwch eich lle drwy Eventbrite
Gynhadledd Reflect – gwahodiad