Seminar Dod â Chosbau Corfforol i Ben

Seminar Dod â Chosbau Corfforol i Ben

Trefnwyd gan:Llywodraeth Cymru
Person Cyswllt: NWSB Business Unit
E-bost: regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
Gwefan: https://www.eventbrite.co.uk/e/ending-physical-punishment-seminar-seminar-dod-a-chosbau-corfforol-i-ben-tickets-199851349767
Ffôn: 01824 712903
Lleoliad: ar-lein

Dydd Llun 15 Tachwedd 12.30pm – 2.00pm – Dros Zoom

Ym mis Ionawr 2020 roedd y Senedd wedi cymeradwyo’r Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”). Y prif nod yw helpu i ddiogelu hawliau plant a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i holl blant yng Nghymru. Roedd y Ddeddf wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 20 Mawrth 2020 ac mae yna nawr ymgyrch ymwybyddiaeth rhanddeiliad a’r cyhoedd amlgyfrwng cynhwysfawr cyn i’r Ddeddf ddod i rym ar 21 Mawrth 2022.  Unwaith y daw’r gyfraith i rym bydd Cymru yn ymuno â dros 55 cenedl arall ar draws y byd sydd eisoes wedi gwahardd cosb corfforol yn erbyn plentyn.

Nod ac Amcanion y Digwyddiad

Hybu a chodi ymwybyddiaeth am y newid i ddod mewn deddfwriaeth yng Nghymru mewn perthynas â Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 a beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol i Blant, Rhieni, Gofalwyr, Gweithwyr Proffesiynol/Ymarferwyr a’n cymunedau yng Nghymru. Mae’r digwyddiad/seminar yn gydweithrediad rhwng y 6 Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Plant yng Nghymru fel rhan o ddigwyddiadau Wythnos Genedlaethol Ddiogelu a bydd yn rhoi gwybodaeth i gyfranogwyr drwy gyflwyniad fideo gyda sesiwn cwestiwn ac ateb i’r panel i ddilyn sy’n cynnwys y sawl â gwybodaeth arbenigol yn y maes hwn ac sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r ddeddfwriaeth.

Cynulleidfa Darged

Holl weithwyr proffesiynol / ymarferwyr ar draws asiantaethau sydd â chyfrifoldeb i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys athrawon, heddweision, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, swyddogion prawf a’r sawl sy’n darparu gwasanaethau ac yn gweithio yn y trydydd sector a chyrff a mudiadau gwirfoddol yn ein cymunedau.

Byddai Llywodraeth Cymru yn hapus i gasglu unrhyw gwestiynau a dderbynnir cyn y digwyddiad – gellir cyfeirio’r rhain i’n blwch negeseuon e-bost Dod â Chosbau Corfforol i Ben: EndPhysicalPunishment@gov.wales

Bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael yn y digwyddiad.

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event