Ymddygiad Hunan Niweidiol: Gwella ymatebion a lleiafu niwed

Ymddygiad Hunan Niweidiol: Gwella ymatebion a lleiafu niwed

Trefnwyd gan:Children in Wales
Gwefan: http://www.childreninwales.org.uk/item/self-harming-behaviours-improving-responses-minimising-harm-2/

19 Ionawr 2017, Conwy – Archebu Ar-lein

Cwrs un-dydd

 

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob ymarferydd sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac sydd am ddeall yn well pam mae pobl ifanc yn niweidio’u hunain, a’r ffordd orau o estyn cymorth i’r rhai sy’n gwneud hynny. Mae ymchwil wedi dangos bod gweithwyr proffesiynol, rhieni a phobl ifanc yn gweld hunan-niweidio fel pwnc hynod sensitif, a bod materion sy’n ymwneud â stigma a chamddeall yr achosion yn creu ansicrwydd ynghylch y ffordd orau o gefnogi pobl ifanc sy’n hunan-niweidio. Mae deall hunan-niweidio yn hanfodol, felly, i ddarparu cefnogaeth effeithiol i’r rhai mewn angen.

 

Erbyn diwedd y cwrs byddwch chi’n gallu:

  • Deall mythau cyffredin ynghylch hunan-niweidio, yn ogystal â materion sy’n ymwneud â stigma
  • Deall a gwerthfawrogi persbectif gweithwyr proffesiynol eraill, rhieni a phobl ifanc
  • Asesu a rheoli risg, deall y cysyniad o leiafu niwed, a bod yn fwy abl i archwilio dewisiadau heblaw hunan-niweidio yng nghyd-destun eich rôl
  • Cymhwyso strategaethau profedig sy’n ceisio datblygu gwydnwch y rhai sydd mewn perygl o hunan-niweidio
  • Datblygu polisi hunan-niweidio wedi’i deilwra at eich anghenion, sydd wedi’i lunio i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad clir

Archwilio a myfyrio ar eich teimladau eich hun ynghylch hunan-niweidio, ac ystyried sut mae safbwyntiau o’r fath yn dylanwadu ar eich ymarfer.

COST:

Aelodau: £140                    Heb fod yn aelod: £160

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event