Sefydlwyd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol i edrych ar ffyrdd y mae sefydliadau yng Nghymru a Lloegr wedi methu â diogelu plant rhag camdriniaeth rywiol ac i wneud argymhellion i amddiffyn plant yn well yn y dyfodol.
Mae’r Ymchwiliad yn cael ei arwain gan dair egwyddor. Bydd yn gynhwysfawr, cynhwysol a manwl.
Mae’r Ymchwiliad wedi’i rannu i dri Prosiect Craidd:
- Prosiect Ymchwil
- Prosiect Gwirionedd
- Prosiect Gwrandawiadau Cyhoeddus
Gyda’i gilydd bydd y dystiolaeth a fydd yn dod i law yn y tri phrosiect yn hysbysu’r casgliadau ac argymhellion cyffredinol y Cadeirydd a’r Panel.
Prosiect Gwirionedd
Mae’r Prosiect Gwirionedd yn caniatáu dioddefwyr a goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol i rannu eu profiadau gyda’r Ymchwiliad. Gall y rheiny sydd yn dymuno cymryd rhan fynychu sesiwn breifat yn un o’n swyddfeydd yng Nghymru neu Lloegr i rannu eu profiad gydag aelod o’r Ymchwiliad. Nid yw eu stori yn cael ei brofi, ei herio na’i gwrth-ddweud.
Fydd yr wybodaeth a ddarperir yn anhysbys ac yn cael ei ystyried gan y Cadeirydd ac aelodau’r Panel wrth ddod i gasgliadau a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol. Fel rhan o’r Prosiect Gwirionedd, bydd dioddefwyr a goroeswyr yn cael cyfle i ysgrifennu neges i’w gyhoeddi ynghyd ag adroddiadau blynyddol yr Ymchwiliad.
Prosiect Ymchwil
Mae’r Prosiect Ymchwil a Dadansoddi yn gweithio ar 13 archwiliad yr Ymchwiliad.
Mae’r Prosiect hwn yn dod â’r hyn sy’n hysbys yn barod am gam-drin plant yn rhywiol at ei gilydd ac yn adnabod y bylchau yn ein gwybodaeth.
Mae’r Prosiect yn cyflawni ymchwil newydd gan gynnwys dadansoddi’r wybodaeth y mae’r Ymchwiliad yn ei gael drwy’r Prosiect Gwirionedd. Mae’r Prosiect Ymchwil a Dadansoddi hefyd yn sicrhau ansawdd data Ymchwiliad mewnol fel y gellir amddiffyn ei ddefnydd.
Prosiect Gwrandawiadau Cyhoeddus
Mae’r Prosiect Gwrandawiadau Cyhoeddus yn debyg i ymchwiliad cyhoeddus confensiynol, lle mae tystion yn rhoi tystiolaeth ar lw ac yn ddarostyngedig i groesholiad. Mae’r Ymchwiliad yn dewis astudiaethau achos o ystod o sefydliadau sydd yn ymddangos i ddangos patrwm o fethiannau sefydliadol.
Bydd pob gwrandawiad yn para am oddeutu chwe wythnos. Gall gwrandawiad fod yn berthnasol i unigolyn penodol sydd yn ymddangos ei fod wedi gallu cam-drin plant yn rhywiol mewn lleoliad sefydliadol. Neu gall fod yn berthnasol i sefydliad sydd yn ymddangos i fod wedi dangos methiannau mynych dros nifer o flynyddoedd. Mae tystiolaeth yn debygol o gael eu cymryd gan ddau gynrychiolydd o’r sefydliadau sydd dan ymchwiliad, a gan ddioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth rywiol.
Nid oes gan yr Ymchwiliad bŵer i euogfarnu camdrinwyr troseddau nag i roi iawndal i ddioddefwyr a goroeswyr. Fodd bynnag, bydd yn defnyddio ei bwerau canfod ffeithiau yn llawn i ddod i ganfyddiadau yn erbyn unigolion neu sefydliadau penodol lle mae tystiolaeth yn ei gyfiawnhau.
Gwybodaeth gyswllt IICSA
- Ffoniwch ein llinell wybodaeth ar: 0800 917 1000
- E-bostiwch ni: contact@iicsa.org.uk
- Ysgrifennwch atom: Freepost IICSA INDEPENDENT INQUIRY
IICSA Darllen Pellach/ Gwybodaeth Defnyddiol
IICSA Gwefan: https://www.iicsa.org.uk/cy
Sesiynau Preifat Prosiect Gwirionedd
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English