Is-grŵp Hyfforddiant Datblygu’r Gweithlu a Dysgu Diogelu

Mae’r Is-grŵp Hyfforddiant Datblygu’r Gweithlu a Dysgu Diogelu wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion yn ein cymunedau, y sgiliau a’r wybodaeth gywir i ddarparu’r gefnogaeth a’r ymyraethau iawn i’w diogelu rhag camdriniaeth a niwed.

I weld y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru – cliciwch ar ddolen y tudalen digwyddiadau

Strategaeth Hyfforddiant Rhanbarthol Amlasiantaethol Pob Oed

Mae diogelu yn fater i bawb.  Mae Is-grŵp Hyfforddiant Datblygu’r Gweithlu a Dysgu Diogelu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ddarparu rhaglenni hyfforddiant amlasiantaethol o ansawdd uchel, gan gefnogi gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau statudol, preifat a thrydydd sector i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl, sy’n cynnwys atal a diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod, a mathau eraill o niwed.

Strategaeth Hyfforddiant Rhanbarthol (Tachwedd 2019) – dogfen i’w atodi

Safonau ar gyfer Hyfforddiant Diogelu

Canllaw i gomisiynwyr

Rhoddir y canllaw hwn i gefnogi comisiynwyr (y rheiny sy’n comisiynu neu benodi hyfforddwyr i ddarparu hyfforddiant diogelu yng Nghymru, ar gyfer taliad, i weithlu sy’n trafod plant ac oedolion mewn perygl yng Nghymru) i ymgysylltu’n effeithiol a chlustnodi hyfforddwyr.

Dylid ystyried y canllaw hwn yn ddyhead i unigolion sy’n bwriadu bod yn ddarparwyr hyfforddiant diogelu (neu unrhyw bynciau penodol o fewn cylch gwaith ehangach diogelu, e.e. Atal), ac i gomisiynwyr hyfforddwyr mewnol, neu’r rheiny sy’n darparu hyfforddiant diogelu fel rhan o rôl swydd ehangach.

Mae Diogelu yn bwnc penodol ac anodd ei ddarparu. Mae’n allweddol i gymhwysedd y gweithlu sy’n diogelu eraill eu bod yn cael eu hyfforddi gan unigolion gyda digon o sensitifrwydd, gwybodaeth a hygrededd.

Safonau ar gyfer Hyfforddiant Diogelu (Tachwedd 2019)