• Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

  • Gwybodaeth
  • Cyhoeddus
    • Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc
      • Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
      • Fframwaith ymddygiad rhwiol niweidiol
      • Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant
    • Gwybodaeth ar gyfer Oedolion
      • Caethwasiaeth Fodern
      • Camddefnydd Ariannol
      • Cam-drin Domestig
      • Eithafiaeth a Radicaleiddio
      • Hunan-Esgeulustod a Chelcio
      • Linellau Sirol
  • Gweithwyr proffesiynol
    • Digwyddiadau a hyfforddiant
    • Aelodau’r Bwrdd
      • BDPGC
      • BDOGC
    • Polisïau a Gweithdrefnau
    • Dogfennau’r Bwrdd
    • Adolygiadau Ymarfer
    • Gweithdrefnau Diogelu Cymru
    • Datblygu’r Gweithlu
    • Cynllun Gweithredu Camdrin Plant yn Rhywiol
  • Adnoddau
    • Briffiau 7 munud
    • Llyfrgell Dogfennau
    • PRUDiC
    • Cardiau Z
  • Blog
  • CC (FAQ)

Linellau Sirol

Beth yw cam-fanteisio drwy linellau sirol?

Llinellau sirol yw term yr heddlu am gangiau mewn trefi’n cyflenwi cyffuriau i ardaloedd a marchnadoedd maestrefol a threfi arfordirol gan ddefnyddio llinellau ffonau symudol pwrpasol neu ‘linellau delio’. Mae’n cynnwys camfanteisio troseddol ar blant gan fod gangiau’n defnyddio plant a phobl ddiamddiffyn i gludo arian a chyffuriau. Mae gangiau’n dod o hyd i safle yn lleoliad y farchnad, fel arfer drwy feddiannu cartrefi oedolion diamddiffyn lleol drwy rym neu roi pwysau arnynt, sy’n cael ei alw yn Saesneg yn ‘cuckooing’.

Mae llinellau sirol yn broblem fawr, drawsffiniol sydd ynghlwm â chyffuriau, trais, gangiau, diogelu, camfanteisio troseddol a rhywiol, caethwasiaeth fodern a phobl ar goll; ac mae’r ymateb i fynd i’r afael â hi’n cynnwys yr Heddlu, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, nifer o adrannau’r Llywodraeth, asiantaethau llywodraeth leol a sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol.

Mae gweithgarwch llinellau sirol a’r trais, y delio cyffuriau a’r camfanteisio cysylltiedig yn cael effaith enbyd ar bobl ifanc, oedolion diamddiffyn a chymunedau lleol.

Sut mae’n effeithio ar bobl ifanc ac oedolion diamddiffyn?

Fel ffurfiau eraill o gamdriniaeth a chamfanteisio, mae camfanteisio llinellau sirol:

  • yn gallu effeithio ar unrhyw blentyn neu berson ifanc (bechgyn neu ferched) sy’n iau na 18 oed
  •  yn gallu effeithio ar unrhyw oedolyn diamddiffyn dros 18 oed
  • yn dal yn gallu bod yn gam-fanteisio hyd yn oed os yw’n ymddangos bod y person yn cydsynio i’r gweithgarwch
  • yn gallu cynnwys grym neu ddulliau hudo er mwyn cael pobl i gydymffurfio ac mae fel arfer ynghlwm â thrais neu fygythiadau o drais
  • yn gallu cael ei gyflawni gan unigolion neu grwpiau, dynion neu ferched, a phobl ifanc neu oedolion
  •  yn cynnwys rhyw ffurf ar anghydbwysedd grym o blaid y rhai sy’n camfanteisio

Er mai oed, efallai, yw’r amlycaf, gall yr anghydbwysedd grym hwn fod o ganlyniad i ystod o ffactorau eraill gan gynnwys rhyw, gallu gwybyddol, cryfder corfforol, statws ac adnoddau economaidd neu adnoddau eraill.

Un o’r ffactorau allweddol sydd yn y rhan fwyaf o achosion o gamfanteisio drwy linellau sirol yw rhyw fath o gyfnewidiad (e.e. cario cyffuriau yn gyfnewid am rywbeth). Pan fo’r dioddefwr yn cael cynnig rhywbeth maen nhw ei eisiau neu’n ei gael neu’n derbyn addewid y byddant yn ei gael, gall y cyfnewidiad gynnwys gwobrau diriaethol (fel arian, cyffuriau neu ddillad) a rhai anghyffyrddadwy (fel statws, gwarchodaeth neu gyfeillgarwch neu serch ymddangosiadol. Mae’n bwysig cofio am y pŵer anghyfartal sy’n rhan o’r cyfnewidiad hwn a chofio nad yw person ifanc neu oedolyn diamddiffyn yn llai o ddioddefwr drwy dderbyn rhywbeth yn ei sgil. Mae hefyd yn bwysig cofio y gall atal rhywbeth negyddol hefyd ateb y gofyn am gyfnewid rhywbeth, er enghraifft; person ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgarwch llinellau sirol er mwyn stopio rhywun rhag cyflawni bygythiad i niweidio teulu’r person hwnnw.

Pwy all fod yn agored i gamfanteisio drwy linellau sirol?

Mae’r darlun cenedlaethol ar linellau sirol yn parhau i ddatblygu ond mae achosion wedi’u cofnodi o:

  • gangiau yn camfanteisio ar blant mor ifanc â 12 oed i gludo cyffuriau allan o’u hardal leol; 15-16 oed yw’r mwyaf cyffredin
  • camfanteisio ar fechgyn a merched
  • targedu plant gwyn Prydeinig gan fod gangiau’n credu eu bod yn llai tebygol o gael eu dal gan yr heddlu
  • defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu am y tro cyntaf gyda phlant a phobl ifanc
  •  targedu rhai sy’n defnyddio cyffuriau dosbarth A er mwyn i gangiau allu meddiannu eu cartrefi (‘cuckooing’ yn Saesneg)

Rydyn ni yn gwybod bod camfanteisio drwy linellau sirol yn digwydd ar raddfa eang wrth i gangiau o ddinasoedd mawr, gan gynnwys Llundain, Manceinion a Lerpwl, weithredu ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban. Rydym yn gwybod bod gangiau’n targedu plant ac oedolion diamddiffyn; mae rhai o’r ffactorau sy’n gwneud person yn fwy diamddiffyn yn cynnwys:

  • Profiad blaenorol o gael eu hesgeuluso, neu o gam-drin corfforol a/neu rywiol

Arwyddion i chwilio amdanynt:

Yn aml, bydd arwyddion bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgarwch llinellau sirol. Gall person ifanc fod yn dangos ambell un o’r arwyddion hyn, un ai fel aelod o gang sy’n delio cyffuriau neu fel partner. Dylech drafod unrhyw newidiadau sydyn yn y ffordd mae person ifanc yn byw gyda nhw.

Mae rhai nodweddion o rywun sydd ynghlwm â llinellau sirol wedi’u rhestru isod, a’r rhai ar y brig sy’n peri’r pryder mwyaf:

  • Mynd ar goll o’r ysgol neu o gartref yn gyson a/neu ddod o hyd iddynt mewn ardal wahanol
  • Arian, dillad neu ffonau symudol ganddynt heb eglurhad
  • Derbyn nifer uchel iawn o negeseuon testun/galwadau ffôn
  • Perthnasoedd gydag unigolion neu grwpiau sy’n hŷn neu sy’n eu rheoli
  • Gadael gartref/gofal heb eglurhad
  • Ymosodiad corfforol tybiedig/anafiadau heb eglurhad
  • Pryderon gan y rhieni
  • Cario arfau
  • Canlyniadau/perfformiad yn yr ysgol wedi dirywio’n sylweddol
  • Ymwneud â gangiau neu fod ar wahân i’w cyfoedion neu i rwydweithiau cymdeithasol
  • Hunan-niweidio neu newidiadau sylweddol i les emosiynol

Beth i’w wneud os oes gennych chi bryderon

Dylai unrhyw ymarferydd sy’n gweithio gydag unigolyn diamddiffyn y maen nhw’n credu y gallent fod yn agored i gamfanteisio drwy linellau sirol ddilyn eu canllawiau diogelu lleol a rhannu’r wybodaeth hon gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol.

Os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl o niwed ar hyn o bryd, dylech gysylltu â’r heddlu.

https://www.youtube.com/watch?v=pLhGpS1f-F0

Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English

Primary Sidebar

Chwilio

Digwyddiadau a hyfforddiant
Polisiau a gweithdrefnau
Adolygiadau ymarfer
Dogfennaur bwrdd
Aelodau
Blog
Wythnos diogelu

Y Negeseuon Diweddaraf

  • Briffau 7 Munud Newydd
  • Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru 13 – 17 Tachwedd 2023
  • Briffau 7 Munud Newydd
  • Cyrsiau rhiantu ar-lein Solihull Approach
  • Briffau 7 Munud Newydd

Newyddlen E-Bost

Cofrestrwch i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf trwy e-bost!

Privacy Notice

Footer

Partneriaid BDGC

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Sir Wrecsam
Heddlu Gogledd Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (Cymru)
Cwmni Ailsefydlu Cymunedol

NISB Logo

Manylion Cyswyllt

Swyddog Gweinyddol Rhanbarthol i’r Bwrdd Diogelu
E-bost: regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
Ffon: 01824 712903

Hysbysiad Preifatrwydd

Mewngofnodi

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Pryderu am blentyn?

Os ydych yn gwybod am blentyn sydd mewn perygl o gam-drin neu yn cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’r cyngor neu’r heddlu.

Os yw’r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999. Os nad yw mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon.

Ynys Môn
01248 725 888
01248 353 551 (y tu allan i oriau swyddfa)

Gwynedd
01758 704 455
01248 353 551 (y tu allan i oriau swyddfa)

Conwy
01492 575111
0300 1233079 (y tu allan i oriau swyddfa)

Sir Ddinbych
01824 712 200
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Sir y Fflint
01352 701 000
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Wrecsam
01978 292 039
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Poeni am Oedolyn?

Os ydych yn gwybod am oedolyn sydd mewn perygl o gam-drin neu yn cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’r cyngor neu’r heddlu

Os yw’r person mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar unwaith ar 999. os nad ydyw mewn perygl dybryd. ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon.

Ynys Môn
01248 750057
01248 353551 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Gwynedd
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant: 01766 772577
01248 353551 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Conwy
Oedolion:
0300 4561111
0300 1233079 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Sir Ddinbych
0300 4561000
0345 053 3116 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Sir y Fflint
03000 858858
0845 053 3116 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Wrecsam
01978 292066
0345 053 3116 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Copyright © 2023 · Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru · Mewngofnodi

  • Cymraeg
  • English